Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/134

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

physigwriaeth. Ac yn Nhre'r Beirdd yr oedd y Prydyddion yn canu yn gelfyddgar hanesion eu gwyr enwog. Cymmaint a hyn am y Derwyddon.

Taclusrwydd eu cerbydau rhyfel, eu medr mewn arfau, a soniwyd am dano eisys. Mi a chwanegaf air yng nghylch nodau march rhyfel; sef yw hyny, "Cadfarch cadarn-dew, cerdded-ddrud, llydan-gefn, bron-eang, gafl-gyfyng, carngragen, ymdeith-wastad, hywedd-falch, drythyll, llamsachus, ffroenfoll, a'i lygad yn frithlas dratheryll." Dyna nodau'r march rhyfel, o ddewis yr hen Frytaniaid. Hwy a fedrent ddarllen ac ysgrifenu er ys o leiaf fil o flynyddoedd cyn geni Crist. Ac y mae yn debygol fod ganddynt ychwaneg o gelfyddydau nag a gred bagad yn awr; ïe, ac ambell peth na wyr holl gynnildeb yr oes bresennol ddim oddi wrtho; canys yr oedd gan yr hen Frytaniaid fath o felinau yn troi heb na gwynt na dwfr. Mewn lle a elwir Bryn y Castell, yn Edeyrnion, yn yr oes ddiweddaf, y cafwyd yn y ddaiar baladr melin, o haiarn, wythochrog, cyn braffed a morddwyd gwr, a phen clwm ar y naill ben iddo, megys y lle y buasai yr olwyn; a'r pen arall wedi ei ysu gan rwd. Yno y cafwyd maen melin o gylch llathen o eithaf bwygilydd: ac meddant hwy, yr oedd y bedwaredd ran o olwyn y felin hòno o haiarn, a'r rhelyw o goed. Ac yr oedd maen tynu (adamant yw hwnw), neu glicied wisgi, neu bob un o'r ddau, y rhai a barai iddi droi o honi ei hun, pan y gosodid.[1] Eu bath cyffredin oedd bres, a modrwyau haiarn; ond mae yn ddilys fod ganddynt hefyd fath arian, a math aur. Cafwyd ym mhlwyf Penbryn fath aur o eiddo yr hen Frytaniaid, heb ddim llythyrenau, ond lluniau dyeithr, ni wyddys beth yw eu hystyr.Llwyd's Annot. in Camd. p. 697. Ac y mae bath Caswallon, a ymladdodd â Iul Caisar, eto i'w gweled. Eu dillad yn y gauaf-ac nid yno chwaith, ond mewn gauaf chwerw o rew ac eira (eu harfer hwy oedd gan mwyaf fyned yn noethlymun), -eu dillad, meddaf, mewn gauaf garw, oedd grwyn iyrchod a theirw gwylltion, a bwystfilod ereill; a'u hardd wisgoedd oedd brethyn gwyn pentan, neu fath o frethyn eddi, heb ei banu; canys nid oes dim sicrwydd fod yma banwyr cyn amser Cred. Hyn oedd trwsiad y cyffredin; ond y bonedd a goreuon y deyrnas a wisgent dabarau symmudliw yn taenu hyd y llawr, a thyrch aur, o waith cynnil dros ben o bobtu eu

  1. Dav. Lexic. sub Breuan.