Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/138

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enbyd ac aruthrol ei faintioli, a'r hwn a lync ddyn ar un tamaid, megys y dygwyddodd hi amryw brydiau; ac nid oes dim blwyddyn eto er pan lyncodd un o'r diawliaid hyn dri dyn mewn llai na chwarter awr. Yr anghenfil hagr hwn sydd gyffredin iawn yn afonydd a llynoedd Affrica ac America; a phwy a ŵyr amgen onid oedd rhai o honynt gynt yn llynoedd Cymru? Yr oedd yma gynt fleiddiaid: nid oes yn awr un o fewn yr ynys; ac eto nid oes gan gyffredin Cymru ddim garwach opiniwn am flaidd na phobl ereill. Ac os y crocodil yw yr afanc, yno y mae yn debygol mai wrth ddifa rhyw anghenfil mawr dros ben, o gylch wyth neu ddeg llathaid o hyd, y dodwyd ychain banog, hyny yw, ychain hynod eu grym, i'w lusgo ef allan, er gorfoledd i'r holl wlad. Mi a wn fod hyn yn sawrio mwy o wirionedd nag y sydd mewn rhyw hen bapuryn: "Y ddau ychain banog oedd Nyniaf a Pheibaf, y rhai a rithwys Duw am eu pechodau yn ychain banog."[1]

Am yr hen iaith Gymraeg, nid oes genyf fi ond ychydig i'w ddywedyd, ond iddi barhau hyd yn ddiweddar agos yn ddilwgr heb nemawr o gymmysg; yr hyn nis gellir dywedyd ond prin am un arall, oddi eithr iaith yr Iuddewon, ac iaith Arabia. Prin y gall neb ddeall y iaith Gymraeg yn llawn fedrus, ond a ddeallo hefyd o leiaf ryw gymmaint o Hebraeg, Lladin, Groeg, a Gwyddelaeg; canys y mae cryn gyfathrach rhwng y pedair hyn a'r Gymraeg. (1.) Am yr Hebraeg: y mae amryw eiriau wedi tramwy yn gyfan atom ni, er maint oedd o gymmysg yn Nhŵr Babel; megys yn y geiriau hyn a ganlyn: Achau, Anudon, Bwth, Cad, Caer, Ceg, Cefn, Copa, Cyllell, Golwyth, Magwyr, Neuadd, Odyn, Poten, Tal, Tomen, gydag amryw ac amryw ereill, nad oes ond ychydig neu ddim cyfnewid rhwng yr Hebraeg a'r Gymraeg. (2.) Am y Lladin: y mae y fath luaws o eiriau yn ein hiaith ni a iaith hen bobl yr Ital, o'r un swn ac ystyr, megys y gall dyn dybied mai o'r un dorllwyth y daeth y ddwy genedl allan. I'n henafiaid ni fenthycio amryw o'u geiriau tra fuont hwy yn arglwyddiaethu yma, nid all neb yn ei iawn bwyll a'i synwyr ei wadu. Ond, er hyny, y mae yn debygol iddynt hwythau fenthycio gan ein hynafiaid ni o'r blaen, pan nad oedd y Lladinwyr eto ond gwŷr bychain yn y byd, a'r hen Gymry, y tu hwnt i'r môr

  1. V. Archæol. Brit. p. 237.