Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Frenines Catherin, yr hon a fuasai yn briod gynt â Harri Ꭹ Pummed o'r enw, Brenin Lloegr. Ni wyddai'r frenines Catherin, gan ei bod yn wraig o Ffrainc, ddim gwahaniaeth rhwng y Cymry a'r Seison, cyn iddi briodi Owen Tudor, yr hyn a wnaeth iddi chwennych yn fawr weled rhyw nifer o gydwladwyr ei phriod, i gael gwybod pa un ai bod cyn saled dynion ag oedd y Seison yn eu portreiadu. Ond yn y cyfamser y daliwyd Owen Tudor a'i frenines yn garcharorion, yng Nghaerlleon. Owen Tudor, ar hyn, a anfonodd am ei dras a'i geraint; ond yn fwy neillduol am ddau gâr anwylaf ganddo, a dau bendefig urddasol, Iorwerth ab Meredyth, ac Hywel Llywelyn. Fe ymwelodd ag ef eu gyd yng nghylch cant o ben bonedd Cymru, y rhai, er eu bod yn wŷr dysgedig ac anrhydeddus, eto ni fedrent air o Seisoneg; canys pan lefarodd y frenines wrthynt yn Ffranceg, ac yn Seisoneg, ni fedrent roddi gair o ateb iddi; yr hyn a barodd iddi ddywedyd, mai y creaduriaid mudion hoewaf oeddynt a'r a welsai hi erioed!" Y mae yn hawdd casglu oddi yma na fedrai na phendefigion na dysgedigion Cymru ddim Seisoneg yn yr oes hono, o gylch tri chant a deg o flynyddoedd a aethant heibio. Am hyny y mae yn ddilys mai Cymraeg yw yr ychydig eiriau uchod, a chwiliais i allan o gywyddau Dafydd ab Gwilym; ac yn wir y mae'r pen Cymro y dysgedig Doctor Davies, yn eu cydnabod oll, gydag amryw chwaneg.

Nid yw hyn ddim wrth y lluaws a fenthyciodd y Seison, o amser bwygilydd, oddi wrth genedloedd ereill, i gyfoethogi eu hiaith, megys y mae hi yn wir yn awr yn iaith lawn a helaeth. Ffrancaeg yw llawer iawn o honi, yng nghyd ag ambell air bychan o'u hen iaith eu hun. "Canys," ebe'r cronicl, "yn amser Gwilym Gwnewerwr, nid oedd swyddog o Sais yn Lloegr; a gwaradwydd mawr oedd alw un yn Sais, neu ymgyfathrachu ag un o'r genedl hòno, canys hwy a gaseid yn ddirfawr. Ac wrth hyny y mae yn amlwg nad oes un pendefig yn Lloegr, eithr o hiliogaeth naill ai o'r Normaniaid, ai o'r Ffrancod, ai ynte o'r Brytaniaid; " ac yno yr ydoedd yn ddiareb, "Jack would be a gentleman, but he can speak no French."

Y geiriau priodol i'r gyfraith sy'n wir ddigon wedi eu colli gan mwyaf yn llwyr, er pan ddodwyd cyfraith Hywel Dda heibio; a hi a barhaodd mewn grym gan mwyaf hyd yn