eang ym meddiant y Twrc. Y mae'r Rhufeiniaid hefyd (y rhai, o gylch amser ein Harglwydd Iesu, oeddent feistraid ar y rhan fwyaf o'r byd ag oedd adnabyddus y pryd hwnw), y maent yn awr, meddaf, er ys llawer cant o flynyddoedd maith, wedi darfod am danynt, hwynt—hwy a'u hiaith hefyd, ond a geffir mewn llyfrau; a'u hawdurdod fawr gynt wedi ei llarpio, megys burgyn gan adar ysglyfaeth. Ond yr ŷm ni eto, gweddillion yr hen Frytaniaid, yn trigo mewn cwr o'r ynys fawr hon, y buom gynt yn feistraid o'r naill gwr i'r llall o honi, ac yn cadw ein hiaith gyntaf, os nid yn berffaith gwbl, eto yn burach nag un genedl arall yn y byd. "Eu hiaith a gadwant, eu tir a gollant," ebe Myrddin[1].
Yr oedd yr hen bobl yn yr oesoedd gynt, mor anysbys am ddechreuad trigolion cyntaf y wlad hon, fel nad oedd ganddynt na medr nac amcan tuag at hyny. Yr wyf yn cofio am un awdwr Seisnig, a eilw'r Cymry Gwilym Bach, yr hwn a ddywed gael mewn ogof yn Lloegr, yn amser y brenin Stephan, fachgen ac herlodes o liw gwyrdd dyeithr anferthol, annhebyg i un dyn arall a welwyd erioed yn y byd hwn; ac mai'r opiniwn cyffredin oedd, iddynt dreiddio i fyny drwy dwll o eigion neu berfedd y ddaiar, fel mae'r awdur yn bur ddoeth yn adrodd yn helaeth.1
Er ynfyted yw y fath hen chwedlau gwallgof a'r rhai hyn, eto nid oedd rhai (ac yn cymmeryd arnynt yn wŷr dysgedig hefyd) ym mysg y Groegiaid a'r Rhufeiniaid un tipyn gallach yn eu traws amcan annyben yng nghylch trigolion cyntaf yr ynys hon; canys barn rhai o honynt yw iddynt dyfu allan o'r ddaiar megys bwyd llyffant.
Y mae e'n wir yn orchwyl dyrys ddigon i chwilio allan ddechreuad ein cenedl ni yn gywir ac yn ddiwyrgam, a'i holrhain o'i haberoedd i lygad y ffynnon; ond mi amcanaf i symmud ymaith y niwl oddi ar y ffordd, fel y bo ein taith at y gwirionedd yn eglur.
Wedi i Adda droseddu gorchymmyn Duw, a myned tua'i epil yn ddarostyngedig i bechod, amlhaodd drygioni dynol ryw gymmaint, ag y bu "edifar gan yr Arglwydd wneuthur o honaw ddyn." Ac yn y flwyddyn er pan greawdd Duw y byd 1655, y danfonodd yr Hollalluog ddiluw cyffredinol i foddi dyn ac anifail; ond Noah gyfiawn (ac, er ei fwyn ef, ei deulu)
- ↑ Gul. Niubrig. Rer. Anglic. lib. 1. cap. 27.