Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond er hyn oll, ni ddeall Cymro un tipyn mo Wyddel yn siarad, na Gwyddel chwaith un Cymro. Y mae amryw achosion am hyn; megys, (1) Yr hir amser maith y maent yn ddwy genedl wahanol, heb ddim cyfeillach neu fasnach teuluaidd rhyngddynt. Y mae amser, o fesur cam a cham, yn gosod wyneb newydd ar bod peth, ond yn enwedig ar ieithoedd. Nid i son am bobloedd pellenig, dyna'r Cymry, y rhai a aethont i'r rhan hòno o deyrnas Ffrainc a elwir Llydaw, gyda Chonan, Arglwydd Meiriadog, yn y flwyddyn o oedran Crist 383; er mai Cymraeg y maent yn siarad hyd y dydd heddyw, eto prin iawn y gall un Cymro o Ynys Brydain eu deall hwy yn siarad, nes bod encyd fawr o amser yn eu mysg. (2.) Y mae gan y Gwyddelod amryw eirau priodol, y rhai sy wedi colli gyda ni; megys y mae gyda ninnau amryw eiriau y rhai sy wedi colli gyda hwy. Ni a welwn gymmaint o wahan eiriau sy rhwng Gwynedd a Deheudir; ac eto a feiddia neb ddywedyd mai nid Cymraeg a siaredir, er hyny, yn y ddwy dalaeth? Ië, ac yn Neheubarth, nid oes odid gwmmwd na chantref, onid oes ryw ychydig o wahaniaeth yn yr iaith; nid yn unig wrth fod y werin yn rhoddi amryw sain i'r un geiriau, ond hefyd wrth alw ac enwi llawer bethau yn wahân. (3.) Achos arall, ïe, achos mawr ac hynod, yw hyn: rai cantoedd o flynyddoedd cyn geni Crist, yn amser Gwrgant Farfdrwch, brenin Brydain Fawr, y cododd llu anferthol o bobl yr Hispaen (wedi eu gyru gan eisieu a newyn allan o'u gwlad), gan hwylio ar hyd y weilgi, os ar antur y caffent ryw le i breswylio ynddo, i dori chwant bwyd. Ar ol goddef gryn drallodion ar y môr yn eu taith beryglus, y tiriasont o'r diwedd ym Mrydain, lle y gwnaethont eu cwyn â llygaid yn llawn o ddagrau, ac â chalon llawn ufudd-dod, o byddai gwiw gan fawrhydi y brenin ddangos iddynt ryw gwr gwlad, a chael rhydd-did i achub einioes, hwynt-hwy a'u gwragedd a'u plant. Dywedasont mai pobl heddychol oeddent; mai y newyn a'u gyrodd hwynt allan o'u gwlad; ac os byddai wiw gan y brenin i'w cymmeryd dan ei amgeledd, nad oedd ganddynt hwy ond gadael bendith Duw am dano, a bod yn ddeiliaid cywir i goron Loegr. Ar hyny y tosturiodd y brenin wrth eu chwedl, a rhoddes genad iddynt fyned i'r Iwerddon; o blegid fod y wlad yn eang ddigon, ac yn lled deneu o drigolion y pryd hwnw.[1]

  1. Mae'r ystori hon yn wir ddigon, ebe Mr. Edward Llwyd. Vid. Galf. lib. 3, c. 12.