Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Arglwydd Esgob Llanelwy, y daeth Sais, a eilw'r Cymry Gwilym Bach[1] (am yr hwn y sonais i o'r blaen), a deisyfu ar Dafydd ab Owen, Tywysog Gwynedd, gael bod yn esgob yn ei le, o gylch y flwyddyn o oed Crist 1169. Ond gan na fu gwiw gan Dafydd ab Owen ganiatäu iddo ei ddymuniad, aeth y gwr adref yn llawn digofaint, a gosod ei synwyr ar waith i ddirmygu a rhedeg i lawr, nid yn unig goffadwriaeth yr esgob ag oedd yn gorwedd yn ei fedd, ond holl genedl y Cymry hefyd a'r Gwilym Bach hwnw, o'i falais, o waith gael pall am esgobaeth Llanelwy, oedd y cyntaf a feiddiodd wadu dyfodiad Brutus yma.[2] Nid yw ei holl lyfr ddim amgen, agos, na sothach o gelwyddau haerllug yn erbyn y Cymry.

Dywed Gwilym Bach yn ddigywilydd, na soniodd neb erioed am ddyfodiad Brutus a'i wŷr o Gaerdroia i'r ynys hon, nes i Ieffrey ab Arthur ddychymmyg hyny o'i ben ei hun: ond y mae hyn yn achwyniad rhy noeth a safnrwth, heb ddim awdurdod, ac yn erbyn pob awdurdod; canys ni wnaeth Ieffrey ab Arthur ond cyfieithu y cronicl Cymraeg i'r Lladin, fel y gallai y dysgedig o bob gwlad ei ddarllen. Ac ym mhell bell cyn amser Ieffrey, y mae un o bennillion Taliesin yn dangos barn ei gydwladwyr yn ei amser ef; ac efe a ysgrifenodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 556. Ei eiriau ynt—

"Mi gefais innau yn fy mryd lyfrau,
Holl gelfyddydau gwlad Europa:
Och Dduw! mor druan, drwy ddirfawr gwynfan,
Y daw'r ddarogan i lin Droia.

Sarffes gadwynog falch annhrugarog,
A'i hesgyll yn arfog o Sermania,
Hòno a oresgyn holl Loegr a Phrydyn,
O lan môr Llychlyn hyd Sabrina.[3]

Yna bydd Brython fel carcharorion,
Ym mraint alltudion o Sacsonia;
Eu Ner a folant, eu hiaith a gadwant,
Eu tir a gollant, ond gwyllt Walia."[4]

TALIESIN BEN BEIRDD A'I CANT.


Ac heb law hyn, y mae rhyw beth hefyd i ddysgu oddi wrth draddodiad a hen chwedlau; ac fe ŵyr pawb nad oes un peth mor gyffredin, ym mysg y Cymry, na chred o'u dyfod gyntaf

  1. William of Malmesbury
  2. Vide Præf. ad. Galf. p. 31.
  3. Hafren.
  4. Cymru