Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr, nid oedd wahaniaeth yn y byd rhwng Esgob Rhufain, ond yn gydradd ag esgobion ereill.

Y cyntaf o'r Rhufeiniad a adnabu Ynys Brydain oedd Iul Caisar; a hyny oedd o gylch hanner cant o flynyddoedd cyn geni Crist. Gwr oedd hwn o ysbryd eang, yn rhyfelwr o'i febyd, ac yn chwennych, fel Alexander Fawr, oresgyn yr holl fyd, a myned yn glodfawr.

"Blaenred wrth fyned oedd fo,
Ac olaf pan fai gilio."

Ond cyn iddo ddyfod ar antur i Frydain, efe a anfonodd lythyr at y brenin a elwid Caswallon, yn y geiriau hyn,[1] nid amgen:—

"Yn gymmaint a bod cwbl o'r Gorllewin wedi ymroi i mi, fal i frenin goruchaf arnynt, ac i Senedd[2] Rufain, naill ai drwy gariad ai drwy ryfel; o herwydd hyny yr wyf yn ysbysu i ti, Caswallon, a'th Frytaniaid, sy'n teyrnasu â'r môr yn eich amgylchynu, ac eto fod dan reolaeth Rhufain, y bydd raid i chwi ufuddhau i mi ac i Senedd Rufain; canys dyledus a chyfiawn yw hyny. Er eich rhybuddio, yr ydym ni, Senedd Rufain, yn danfon atoch y llythyr hwn, er traethu ac ysbysu i chwi, yr ymddïalwn ni â chwi drwy ryfel o nerth arfau, os chwychwi nid ymroddwch i ni am dri pheth; sef, (1.) Talu o honoch i Rufain deyrnged bob blwyddyn. (2.) Bod bob amser yn barod, â chwbl o'ch nerth, i ymladd wrth fy nghorchymmyn â'm gelynion, o amser bwygilydd. (3.) Danfon gwystlon i Rufain ar gyflawnu hyny. Yr hyn, os chwychwi a'i gwna, eich perygl a fydd lai, a'ch rhyfel ar ddyben: ac onid e, edrychwch am ryfel ar frys."

Pan ddarllenodd Caswallon, brenin y Brytaniaid, y llythyr hwn, danfonodd i geisio ei gynghoriaid a'i arglwyddi goruchel ato, fel y gwelent pa ryw dymmestl a dinystr oedd yn crogi uwch eu penau; ac er gwaethaf bygythion Caisar, hwy a gydfarnasant, megys o un geneu, anfon llythyr ateb iddo yn y wedd hon, nid amgen: :

"Yn y modd yr ysgrifenaist ti, Caisar, ataf fi, mai ti biau freniniaethau'r Gorllewin; yr un modd boed ysbys i ti, mai myfi a'r Brytaniaid a biau Ynys Brydain. Ac er i'r duwiau roddi i ti gwbl o'r gwledydd wrth dy ewyllys dy hun, ni

  1. 1 Ms. vet. 2
  2. Senedd Rufain oedd megys Parliament yn Lloegr.