Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rhyngddynt, a dechreu ymgecru; ac o roddi geiriau cras, myned a wnaethant frigfrig ac ymdynu; ar hyny i dynu eu cleddyfau, lle y lladdodd Cyhelyn, nai Afarwy, Hirglas, nai y brenin, er bod Afarwy yn honi mai syrthio ar ei gleddeu ei hun a wnaeth Hirglas. A rhag y gelwid ei nai i gyfrif am y mwrdd-dra a dyoddef cosp cyfraith (am fod Caswallon yn bygwth hyny), Afarwy a anfonodd lythyr i wahawdd Iul Caisar i ddyfod eto i Frydain, yn y geiriau hyn: [1]

"Arfarwy ab Lludd, Tywysog Llundain, yn anfon anerch i Iul Caisar, Ymherawdr Rhufain, a chwedi dymuno gynt ei angeu, weithian yn dymuno iechyd iddo. Edifar yw genyf i ddal i'th erbyn di, pan fu'r ymladd rhyngot ti a Chaswallon ein brenin ninnau; canys pe peidiaswn, heb dy ammheu, ti a fuasit yn fuddugol. A chymmaint o syberwyd a gymmerth yntef wedi caffael y fuddugoliaeth hòno trwy fy nerth i, ag y mae yntef weithian yn fy nigyfoethi innau, ac felly yn talu drwg dros dda i mi. Mi a'i gwneuthym ef yn dreftadawg, ac y mae yntef yn fy nidreftadu innau. A minnau a alwaf dystiolaeth nef a daiar, hyd na haeddais i ei fâr ef o iawn, ond o herwydd na roddwn fy nai iddo i'w ddienyddu yn wiriawn. Ac edryched dy ddoethineb di ddefnydd ei lid ef. Chwareu palet a orug2 dau neiaint i ni, a gorfod o'm nai i ar ei nai ef; ac yna llidio a orug[2] nai y brenin, a chyrchu fy nai i â chleddyf; ond efe a syrthiodd ar ei gleddyf ei hun, oni aeth trwyddo. Ac wrth nas rhoddais, Ꭹ mae efe yn anrheithio fy nghyfoeth innau. Ac wrth hyny, yr wyf yn gweddïo dy drugaredd, ac yn erchi nerth genyt i gynnal fy nghyfoeth, hyd pan fo, drwy fy nerth innau, y ceffych di Ynys Brydain. Ac nac ammheued dy bryder di am yr ymadrodd hwn, canys llawer wedi ffoi unwaith a ymchwelant yn fuddugol.”

Ac o ran ei fod efe yn gwybod mai hen gadnaw oedd Iul Caisar, ac nad oedd ond ofer iddo dybied y rhoisid coel idd ei eiriau heb ryw feichnïaeth, y bradwr Afarwy a anfonodd ei fab, yng nghyd â deuddeg ar hugain o farchogion, i ddwyn y llythyr at Iul Caisar, ac hefyd i fod yn wystlon o fod ei amcan ef yn gywir. Bywiogodd hyn galon Caisar, ac nid allasai un peth yn y byd ddygwydd yn fwy dymunol ganddo; ond eto o herwydd na chafas efe ond groesaw cyn hagred, a gorfod arno ffoi a throi ei gefn y waith gyntaf, efe a ddaeth yn awr yn

  1. Geiriau y Cronicl yw y rhai hyn, air yn air. Ms.
  2. Ystyr y gair "orug" yw, a wnaeth."