ymdynu. Ac ym mysg ereill, Cyntwrch, gwr dysgedig o radd y Derwyddon, a areithiodd yn y wedd hon:-"Chwychwi bendefigion urddasol o genedl y Brytaniaid, clust-ymwrandewch â'm chwedl. Rhyw henafgwr gynt, ag iddo ddeuddeg mab anhydyn, ac heb wrando ar ei gynghor i fod yn unfryd ac yn heddychol â'u gilydd, a ddygodd gwlwm o ffyn ger eu bron, sef deuddeg o nifer, ac a archodd os gallai neb un o honynt, o rym braich, dori y cwlwm yn ddau; yr hyn pan brofodd un ac arall ol yn ol, a atebasant, nad oedd agos rym ddigon yn neb un i dori y baich ffyn yng nghyd. Ac yna yr henafgwr a ddattododd y cwlwm, ac yn hawdd ddigon torodd y llanciau y ffon, a roddasid i bob un ar neilldu. Ac ar hyny y dywad eu tad wrthynt, 'Cydnabyddwch, fy meibion, tra fo chwithau yn cyttal yng nghyd mewn cwlwm tangneddyf a chariad brawdol, nad all neb eich gwaradwyddo; eithr os ymranu a wnewch, gwybyddwch o fod yn ysglyfaeth i'ch gelynion.' O gydwladwyr, a chwi bendefigion y bobl, dyna ansawdd ein cyflyrau ninnau; os nyni a ymgeidw yn un a chytûn, nid all holl ymgyrch y Rhufeiniaid wneuthur dim niwed i ni. Nyni a welsom hyny eisys, wrth yru Iul Caisar ar ffo; eithr os anrheithio a difodi cyfoeth y naill y llall a rhyfela â'ch gilydd yw eich dewis, byddwch sicr o fod yn gaethweision i'r Rhufeiniaid."V
Ond yr un peth a fuasai canu pibell yng nghlustiau'r byddar, a cheisio eu perswadio hwy fod yn heddychol; canys dilyn eu hen gamp ysgeler a wnaethant hwy fyth, i ymryson a mwrddro eu gilydd, fel y gwelwch chwi adar y to yn ymgiprys am ddyrnaid o yd, heb wybod fod hyny yn eu harwain at y groglath. Ar air, cymmaint oedd eu cynddeiriogrwydd a'u malais, fel prin y byddai cydfod parhäus rhwng y naill gantref a'r llall drwy y deyrnas. [1]
Yn awr yn y terfysg a'r cythrwfl yma, fe ddygwyddodd i ryw wr mawr a elwid Meurig gael ei ysbeilio o'i gyfoeth a'i awdurdod, llosgi ei dai, anrheithio ei diroedd, mwrddro ei ddeiliaid, a'i yru yntef ar draws gwlad i gael noddfa lle y gallai! Ac yn y wŷn danbaid hon, efe a aeth dros y môr i wahawdd Gloew Caisar[2] i oresgyn Ynys Brydain; yr hyn a ddygwyddodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 44; a hyny oedd agos i gan mlynedd ar ol i Iul Caisar dirio yma gyntaf.