GAIR AM YR AWDWR A'I WAITH
"YSTYRIAIS y dyddiau gynt, blynyddoedd yr hen oesoedd," ebe'r Salmydd; felly hefyd y meddyliodd ac yr ysgrifenodd Theophilus Evans, gyda golwg ar y llyfr hwn o hanes yr hen amser. Erbyn heddyw y mae hi wedi myned yn "ddyddiau gynt" gyda golwg ar yr awdwr ei hun a'i helyntion. Ydyw, ydyw, y mae, ddarllenydd anwyl. Llawer tro ar fyd sydd wedi dygwydd er pan syrthiodd ein hawdwr i'r llwch to ar ol to. sydd wedi ymddangos ac wedi myned heibio er pan yr oedd efe yn ei flodau: yn wir y mae gwyntoedd ac ystormydd pedwar ugain gauaf a rhagor wedi chwythu dros ei fedd, o'r cribog fryniau cyfagos, yn eu holl nerth a'u trychineb.
Hoffem yn fawr iawn wybod mwy o hanes ysgrifenwr "Drych y Prif Oesoedd" nag y sydd ar gael yn awr. Y mae'r fath arabedd naturiol a swyn yn ei frawddegau, fel yr ydym braidd yn meddwl weithiau wrth ddarllen ei lyfr, mai gwrando yr ŷm ar ryw wron wedi dianc o'r cynoesoedd yn adrodd yn gyffröus ei anffodau, ei ryfeloedd, a'i helyntion o bob math. Nis gallwn fel hyn lai na charu a pharchu un yn medru hwylio ei ysgrifell mor fedrus. Fe fuasai yn rhyw bleser mawr i ni gael hanner diwarnod o gymdeithas y fath gydymaith. Fe roisem lawer am gael cipolwg arno yn ei wisgoedd offeiriadol ar foreu Sul, a chlywed ei lais yn seinio