Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/80

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn oedd yn ddilys o waed breninol y Brytaniaid, a haeddai ei goffäu, ac a elwir Cystenyn. Heb law ei deitl i'r goron, efe a ddewiswyd hefyd er mwyn ei enw, gan obeithio y byddai efe cyn enwoced gwr a Chystenyn Fawr, ei gâr. Rhyfelwr enwog oedd y gwr, ac a fu mor llwyddiannus, fel y bu Ffrainc, ac Hispaen, a Brydain dan ei lywodraeth ef dros amryw flynyddoedd; ac ni fu ond lled troed rhyngddo a bod yn ben ymherawdr byd, a'i goroni yn yr Ital. Ond yna, yng nghanol ei rodres, efe a laddwyd drwy frad a chynllwyn, a'i wŷr a wasgarwyd, ond y rhan fwyaf a arosasant gyda'u cydwladwyr yn Llydaw: a hon oedd y drydedd waith i'r Brytaniaid adael llwyth o'u pobl yno, sef o gylch y flwyddyn 409.

Buan y parodd y fath afreolaeth a hyn, a hyny yn ddibaid dros amryw flynyddoedd, i holl ymherodraeth Rhufain siglo ac ymollwng, megys llong fawr yn ymddattod pan fo'r tònau a gwynt gwrthwyneb yn ei chipio; neu megys maes llydan o wenith yn cael ei sathru a'i rwygo gan genfaint o foch, oni bydd cae diogel o'i gylch: felly Rhufain a'i holl gadernid a aeth o fesur ychydig ac ychydig, yn chwilfriw mân, o ran yr aml ymbleidiau o'i mewn, a dygasog ymgyrch y barbariaid o amgylch. Ac megys nad all neuadd fawr eang o amryw ystafelloedd, amgen nag adfeilio, pan y bo deiliad gwan yn byw ynddi; felly yr un modd, pan oedd y milwyr mor afreolus, ac yn newid eu meistr mor fynych, h.y., yn gosod y sawl a welent hwy fod yn dda yn ymherawdr, ac ar y cweryl lleiaf yn ei ddiswyddo eilwaith, nid yw ryfedd nad allai un pen rheolwr, yn y fath achos a hwn, gadw cynnifer o wledydd mewn ufudd-dod. A thyna a barodd i'r ymherawdr a elwid Honorius, o gylch y flwyddyn 410, ymwrthod â'r deyrnas hon, a danfon am ei fyddinoedd oddi yma adref i'r Ital, lle yr oedd mwy rhaid wrthynt. Dyma ddechreuad yr aur a'r arian yr ydys mewn amryw fanau yn eu cloddio o'r ddaiar; canys ar waith yr ymherawdr yn galw am danynt adref ar frys, y Rhufeiniaid yno a guddiasant eu trysorau mewn tyllau ac ogofeydd yn y ddaiar, gan obeithio y caffent hwy odfa i'w meddiannu ryw bryd arall; ond hyny nis cawsant fyth.[1]

Yr oedd Brydain Fawr ar hyn o bryd, gan hyny, wedi ei harllwys yn gwbl o'i gwŷr arfog; a hyny a barodd i'r gwibiaid treigl hyny, y Ffichtiaid, fod mor llwyddiannus yn eu lledrad

  1. Vid. Uss. Primord. p. 600.