iddynt, ac a adawodd iddynt gyfanneddu mewn cwr o Scotland, neu Iscoed Celyddon, ym mhell tua'r gogledd. Ac yn gymmaint nad oedd deilwng gan y Brytaniaid roddi eu merched yn wragedd hwy i'r fath ddynion dreigl a'r rhai hyn, yr aeth y Brithwyr hyd yn Iwerddon, ac a gymmerasant y Gwyddelesau yn wragedd iddynt; ac o'r cyfathrach hwnw y tyfodd y fath gyfeillgarwch rhwng y Brithwyr a'r Gwyddelod, fel y buont yn wastadol megys elin ac arddwrn byth wedyn. Ac y mae eu hepil (hyd y dydd heddyw yn siarad Gwyddelaeg) yn byw eto o fewn Brydain Fawr, tuag eithaf gwr y gogledd. Y bobl hyn oeddent fyth yn cynnal yr hen ddefod o fritho eu crwyn ag amryw luniau o adar, seirff, a bwystfilod; dyna oedd eu gwychder hwy; ac o achos hyny a gyfenwyd y Picti, neu y Brithwyr, megys y mae llaweroedd o bobl yr India fyth yn ymdecäu.[1] Heb law fod yr hen hanesion, [2] ac amryw hefyd o'r pen ddysgedigion diweddar,[3] yn maentumio mai pobl dreigl o bell oedd y Brithwyr, mi a feddyliais o hyd mai pobl bellenig oeddent, wrth y ddefod nodedig hon oedd yn eu chwareuyddiaeth, sydd ganddynt mewn amryw fanau o Gymru, yn enwedig ar lan Teifi yn Neheubarth. Canys yn y gamp y maent yn ymranu yn ddwy blaid, dan enw Brithwyr ac Henwyr, y naill yn erbyn y llall. Yr Henwyr yw yr holl rai o'r pedwar enw cynnefin, Ifan, Dafydd, Sion, a Siencyn; a'r Brithwyr yw pawb yn ddiwahân o un enw arall pa un bynag; ac yn fynychaf y mae yr Henwyr, er ond o bedwar enw, yn ennill y maes. Yn awr, wrth Henwyr y meddylir, yn ddilys, yr hen drigolion cyntaf; ac felly y Brithwyr ynt estroniaid a phobl dyfod.
Gan hyny, o gylch y flwyddyn 75, y tiriodd y Brithwyr gyntaf ym Mrydain, y rhai, er iddynt gyfathrachu a'r Gwyddelod, a gadwasant er hyny yn bobl wahân dros rai cantoedd o flynyddoedd; ac ni wyddys eto yn ddilys ddigon, pa un ai eu lladd a gawsant mewn rhyfel, neu fyned yn un bobl â'r Gwyddelod a wnaethant yn y diwedd; canys nid oes son am danynt mewn hanesion er ys wyth cant a hanner o flynyddoedd a aethant heibio [1740].
Hyd y gwyddom ni amgen, fe allasai y rhai hyn fod yn bobl led brydferth a llonydd ar y cyntaf; canys nid oes dim hanes