Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y waith hon, pe byddai bosibl, yn fwy llidus nag o'r blaen. Torasant fylchau yn y clawdd, lladdasant y ceidwaid, llosgasant y trefydd, bwytasant yr anifeiliaid ond odid yn ammrwd yn eu gwanc a'u cythlwng; megys pan fo cnud o fleiddiaid, wedi eu gyru yn gynddeiriog gan newyn, yn rhuthro i ddiadell o ddefaid, yna pa alanasdra a fydd ym mysg y werin wirion hòno! a'r hon a fo mor ddedwydd a diane fydd a'i chalon o hyd yn ysboncio, ac yn tybied fod blaidd ar ei gwar, os bydd ond dalen yn cyffro mewn perth; felly y Brithwyr hwythau (y rhai, ebe Gildas, oeddent ddynion blewog, cethin, ac ofnadwy, a go debyg i Nebucodonosor, ar ol ei droi ar lun anifail) oeddent genedlaeth annhrugarog a chreulawn, digrifwch y rhai oedd lladd a dyfetha, megys y teimlodd y Brytaniaid y waith hon, ac amryw brydiau ereill hyd adref; a'r rhai a ddiangasant i ogofeydd a'r anialwch oeddent o hyd yn eu hofn, rhag i'r Brithwyr ddyfod am eu penau, a'u taro bob mab gwraig yn ei dalcen yn ddisymmwth. Nid oes dim crybwyll fod y Ffrancod a'r Seison y waith hon gyda'u hen gyfeillion; mae yn debygol mai arnynt hwy y disgynodd dyrnod y Rhufeiniaid drymaf, gan eu bod hwy yn cadw tua'r dwyrain, y lle y tiriasant gyntaf, o gylch Caint a glan Tafwysg.

Y fath oedd lleithder a meddalwch y Brytaniaid o hyd, fel y goddefasant eu herlid i dyllau, a newynu, yn hytrach na chymmeryd calon ac ymwroli; ond ar hyny, y penaethiaid a ymgyfarfuant, ac, ar ddewis chwedl neb, nid oedd dim i wneuthur ond anfon cenadwri eto at eu hen feistraid i Rufain, i ddeisyf cymhorth, a chynnyg y wlad dan eu llywodraeth: sef oedd enwau y gwŷr a ddanfonwyd Peryf ab Cadifor, a Gronw Ddu ab Einon Lygliw. Prin iawn yn wir y gallasent ddysgwyl gael eu neges y tro hwn yn anad un pryd arall, gan fod y Rhufeiniaid â'u dwylaw yn llawn gartref, a'r ffordd yn faith i Ynys Brydain; eto, trwy fawr ymbil, tycio a wnaethant; a chawsant leng o wŷr arfog gyda hwy drachefn i dir eu gwlad: a chwedi cael y fath gefn, y Brytaniaid yno a ymchwelasant ar eu gelynion, a thrwy borth y Rhufeiniaid a wnaethant laddfa gethin yn eu mysg: ond Dyfodog, pen y gâd, a ddiangodd yng nghyd â dwy fil a phum cant o wŷr gydag ef i'r Iwerddon. O gylch y flwyddyn o oedran Crist 420 y bu hyn.

Mae yn ddilys fod y Brytaniaid ar hyn o amser, yn weinion eu gwala, pan y gallasai un lleng fod er cymmaint o wasan-