Yn y cyfamser yr oedd y newyn yn dost ym Mrydain; canys heb law fod y Brithwyr, fel llwynogod Samson, yn llosgi'r ydau a phob rhyw luniaeth, oddi eithr yr hyn oedd gyfreidiol iddynt eu hunain; heb law iddynt yru y Brytaniaid ar encil i'r diffaethwch, lle nid allai fod nac âr na medi; heb law hyn, meddaf, yr oedd y blynyddoedd yn oer a gwlybyrog, yn gymmaint ag nad addfedodd yr ychydig a hauwyd. Ond er y gorthrymderau hyn oll—y cleddyf a'r newyn—dynion pechadurus gwargaledion oeddent: rhai aethant yn gaethweision i'r Brithwyr, er cael tamaid o fara yn eu cythlwng; ereill a ddewisasant drengu yn yr ogofäu a chromlechydd y creigiau cyn yr ymostyngent i'r gelynion; ond ychydig iawn a alwasant ar yr Arglwydd eu gwared o'u cyfyngdra a'u cystudd; a phe hyny a wnaethent o galon ddifrifol, ni fuasai raid wrthynt arswydo rhuthr un gelyn, ac byth ni welsent estron—genedl yn trawsfeddiannu eu gwlad; o blegid "tŵr cadarn yw enw yr Arglwydd; ato y rhed y cyfiawn, ac y mae yn ddiogel."
Ond yno ym mhen talm (ar ol derbyn y wobr ddyledus idd eu pechodau yn y byd hwn) y gwelodd yr Arglwydd yn dda i gyffwrdd â'u calonau; a daethant, fel y mab afradlawn, i bwyll ac ystyriaeth, gan ddychwelyd yn edifeiriol at yr Arglwydd eu Duw. Ac er nad oeddent y pryd hwnw ond ychydig o drueiniaid methedig, wedi eu curo gan yr oerfel a newyn, eto cawsant eu nerthu gan Dduw fel na allodd cad y Brithwyr, er lluosoced oedd, eu gwrthsefyll. Sathrwyd eu byddinoedd, megys pan fo dyn yn ysgythru mân—goed â bilwg: ac er iddynt gael aml borth o wŷr ac arfau allan o'r Iwerddon, eto ni thyciodd iddynt ennill un maes; canys y Brytaniaid oedd â'u hyder yn yr Arglwydd Dduw. Ac ar hyny, Cilamwri Mac Dermot O'Hanlon, ac Huw Mac Brian, ac Efer Mac Mahon (pen capteniaid y Brithwyr a'r Gwyddelod), a ffoisant, hwynt—hwy a'u gwŷr yn archolledig, tu draw i Wal Sefer, i fynydd—dir Isgoed Celyddon, ac ereill dros y môr i'r Iwerddon.[1] Hwyr y tygasai neb y buasai y cyfryw ddynion yn gollwng Duw mor ebrwydd yn anghof: fe debygai dyn y buasent yn ofni Duw 'gyda gwylder a pharchedig ofn," gan ystyried eu bod yn gweled (pe gosodasent hyny at eu calonau) y fath arwyddion mawr a hynod; canys hwy a welsant y dialeddau trymion, y distryw, y newyn, a'r difrod ag oedd o hyd yn eu cydganlyn, tryw, y newyn, a'r difrod ag oedd o hyd yn eu cydganlyn,
- ↑ Gwel Deut. xxviii. 7.