Tudalen:Drych y Prif Oesoedd 1884.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwy a giliasant ac a aethant ymaith." (Ier. v. 23.) Yng nghanol y gloddest a'r anniweirdeb yma, dyma newydd yn ddisymmwth yn ymdaenu dros y wlad, fod y Brithwyr a'r Gwyddelod wedi tirio. Fe weithiodd hyny, yn wir, ryw gymmaint o fraw ynddynt, ac a wnaeth i'w calonau ysboncio ychydig; megys y gwelwch ddyn yn cilio yn drachwyllt wrth ganfod neidr yn ddiswta yn gwanu ei chonyn, ac yn llamsach mewn perth. Ond hyny o fraw a ä yn ebrwydd heibio; felly yr un modd y Brytaniaid hwythau, wedi cael ysbysrwydd nad oedd y cwbl ond larwm a chwedl gwlad, a aethant yn ebrwydd ar ol eu hen arferion, yn bendifaddeu i ymlenwi ac ymbleidio. Ac ar hyny, gan na chymmerent addysg, yr Arglwydd a anfonodd bla angeuol yn eu mysg, a elwid Brad Cyfarfod, yr hwn a ysgubodd ymaith y fath luaws anfeidrol o bob gradd ac oedran, fel prin y gallodd y byw gladdu'r meirw. "Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, yna y gwna yr Arglwydd dy bläu di yn rhyfedd, sef pläu mawrion a pharhäus, a chlefydau drwg a pharhäus." (Deut. xxviii. 58, 59.) A chyn pen nemawr o amser ar ol hyn, sef ar ol i'r pla laesu ychydig, wele y Brithwyr wedi dyfod yn ddiau ddigon; a rhwng y difrod a wnaeth y pla, a'r gelynion yn llosgi eu trefydd ac yn rhuthro arnynt, a hwy yn weinion ac yn gleifion, y mae yn hawdd i neb farnu pa mor resynol oedd eu cyflyrau. Hyny wnaeth iddynt alw am y Seison, y rhai a fuont yn waeth eto nag un pla na Brithwr.

PENNOD IV.

Y RHYFEL A FU RHWNG Y BRYTANIAID A'R SEISON. BRAD Y CYLLYLL HIRION. HANES UTHR BENDRAGON, AC ARTHUR, &c. TYWYSOGION CYMRU. YCHYDIG O GYFRAITH HOWEL DDA.

WEDI dangos eisys i ba amgylchiadau tosturus y dygpwyd yr hen Frytaniaid iddynt gan eu lleithder a'u meddalwch, ond yn anad dim gan eu bywyd diras a'u diystyrwch ar Dduw, mi a af rhagof i ddangos eu hynfydrwydd a'u gwallgof tu hwnt i ddim, yn deisyf cymhorth y Seison;[1] canys yr un

  1. O altissimam sensus caliginem! o desperabilem crudamque mentis hebetudinem. Gild. 23, p. 20.