Gwrtheyrn. Ac ar hyny y cymmerth Hengist groen tarw, ac a'i holltodd yn un garai, ac yn y lle cadarnaf, efe a amgylchynodd gymmaint a chae gweddol o dir, ac a adeiladodd yno gaer freiniol, yr hon a elwid gynt gan y Brytaniaid, Caer y Garai, eithr yn awr gan y Seison, Doncaster, hyny yw, Thong-chester.[1]
Ac yna Hengist a wahoddodd y brenin i weled y gaer newydd, a'r marchogion a ddaethant o Germani, a gwnaethpwyd yno wledd fawr o bob moethau da ac ammeuthyn fwydydd dantaith. Ond yn niwedd y cwt (a Hengist yn gwybod eisys mai dyn mursenaidd oedd Gwrtheyrn), efe a barodd i'w ferch Rhonwen wisgo yn wych odidog am dani, ac i ddyfod i'r bwrdd i lenwi gwin i'r brenin. A daeth ystryw Hengist i ben wrth fodd ei galon; canys y brenin anllad a hoffodd yr eneth, ac a ddymunodd gael cysgu gyda hi y noson hòno; a hithau,
"Yr eneth frau anniwair,
Ni ddyd wich, ni ddywad air," [2]
ond cydsynio yn ebrwydd ag ef; a phan geryddwyd ef am ei bechod a'i loddest gan Fodin, Esgob Llundain, megys y gweddai i wr o'i broffes wneuthur, y brenin, yn ei wŷn gynddeiriog, a ergydiodd waewffon at ei galon, ac a gymmerth Ronwen yn gariadferch iddo. Geiriau'r cronicl ynt, "A chwedi meddwi Gwrtheyrn, neidio a orug diawl yntho, a pheri iddo gydsynio â'r baganes ysgymmun heb fedydd arni."
"Tanbaid ei naid yn ei ol,
Tanbeidiach na'r tân bydol."
TUDUR ALED A'I CANT.
Wedi i hyn ddyfod cystal i ben wrth fodd y Seison, yna dysgwyl a wnaethant am amser cyfaddas i ruthro ar eu meistraid. Yn gyntaf, achwyn a wnaethant nad oedd eu cyflog agos cymmaint ag oedd eu gwroldeb yn eu haeddu. Er nad oedd hyn ddim oll ond cweryl gwneuthur, eto i gau eu safnau cawsant ychwaneg,[3] yr hyn a'u dystawodd dros ychydig. Ond, megys y dywed y ddiareb, "Hawdd gan foneddig fin-gamu," felly hefyd hawdd yw digio dig, canys yr un don hagr oedd fyth yn bytheirio yn eu safnau, "nad oedd
- ↑ Galf. lib. 6, c. 12. Camd. in Lincolnshire, p. 471.
- ↑ Owen ab Llewelyn Moel a'i cânt. Impetrant sibi annonas, dari, quæ multo tempore impetitæ clauserunt (ut dicitur) canis faucem. Gild. p. 21.
- ↑ Impetrant sibi annonas, dari, quæ multo tempore impetitæ clauserunt (ut dicitur) canis faucem. Gild. p. 21.