odd ei Eppil, ym mhen Talm o amʃer (ʃef ynghylch can mlynedd ar ôl y Diluw) i adeiladu Twr a'i nen hyd y Nefoedd. Gen. 11. 4. [1] Mae rhai yn tybied mai'r achos a'i cymhellodd i ymofod at y fath Waith aruthrol a hwn, ydoedd, rhac i Ddiluw eu goddiwes eilwaith, a'i llwyr ddinyʃtrio oddiar wyneb y Ddaear; a rhac ofn hynny iddynt adeiladu y Twr a'r ddinas i'w cadw yn ddiogel rhac Llifeiriant y Dyfroedd. Gwnawn i ni enw, ebe hwy, rhac ein gwaʃcaru rhyd wyneb yr holl Ddaear. Er mai Barn eraill yw hyn, eu bod hwy ynawr ar eu Taith tua Gardd Baradwys; ac oblegid fod y wlad o amgylch mor hyfryd, yn llawn o Beraroglau a Llyʃiau a ffrwythau a phob peth arall dymunol, chwennychaʃonti aros yno, hwy a'i Eppil dros fyth, ac ar hynny iddynt adeiladu Twr ar y ddinas rhac eu gwaʃcaru oddiyno.[2]-Ond pa fodd bynnag yw hynny, ni adawodd yr Arglwydd iddynt ddwyn eu Gwaith i ben, oblegid fe a gymmyfcodd eu Hiaith, fel na ddeallai'r naill beth a ddywedai y llall. Os dywedai un wrth ei Gyfaill, Moes i mi Garreg, fe eʃtynnid iddo ond odid Gaib yn lle carreg. Os dywedai un arall, cadw y Rhaff yn dynn, y llall a'i gollyngai hi yn rhydd. Fel hyn, yr Jaith yn gymmyʃc, ac megis yn Eʃtron y naill i'r llall, nid allaʃent fyth fyned a'i Gwaith yn y Blaen.
NID oedd ond un Dafod-leferydd o'r blaen drwy yr Byd mawr, (ʃef yr Hebraeg yn ddilys ddigon,) Eithr y Ddaear, ag oedd cyn hynny o un jaith ac o un Ymadrodd, a glywai ei Thrigolion