Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ddim ond dinystr a distryw. Ac er gwyched rhyfelwyr oedd gwŷr Rhufain, fe ddywedir eu bod yn wyneblasu ac yn delwi ar eu gwaith yn clywed trwst cerbyd, fel y gwelwch chwi gywion yr iar yn crynu rhag barcut chwiblsur, egr, yn gwibio oddifry arnynt.

Ni arosodd Iwl Caisar ond amser byr chwaith y tro hwn ym Mhrydain; ac achos da paham, yr oedd y wlad yn rhy dwym iddo; canys y mae efe ei hun yn addef nad oedd dim esmwythdra na llonyddwch iddo ef na'i wŷr. Canys pan elai ei wŷr allan i baratoi lluniaeth,—neu, mewn geiriau ereill, pan elent i ladrata da a defaid, ac ysbeilio tai gwirioniaid,—yno y Brutaniaid a ruthrent arnynt, a'u taro yn eu talcen; a dedwydd a fyddai hwnnw, yr hwn o nerth ei draed a ddygai y chwedl yn ddihangol i glustiau Caisar. Ac atolwg, a oedd bai mawr ar yr hen Frutaniaid yn trin lladron a llofruddion felly? Eu holl hymgais hwy oedd ceisio amddiffyn eu gwir feddiant a'u heiddo eu hun. Ac oddiyno y tyfodd y ddihareb,—"Gwell gwegil câr nag wyneb estron."

A Caisar ar hynny a fwriadodd o ddifrif fyned adreu i dir ei wlad. A'r Brutaniaid hwythau a feddianasant eu gwlad yn heddychol ac yn ddidaro dros agos i gant o flynyddau wedi hynny; a pheth mawi na chai dynion fyw yn llonydd ar eu gwir eiddo eu hunain. Fe amcanodd Augustus Caisar, yn amser yr hwn y ganed Crist Iesu,—ymdreiglo i'r ynys hon; ac y mae un o ben-prydyddion yr oes honno yn dymuno llwyddiant iddo ef a'i wŷr, yn y fath bennill a hon,—