Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

aeth i'ch gelynion.' O gydwladwyr, a chwi bendefigion y bobl, dyna ansawdd ein cyflyrau ninnau; os nyni a ymgeidw yn un a chytun, nid all holl ymgyrch y Rhufeiniaid wneuthur dim niwaid i ni; nyni a welsom hynny eisoes wrth yrru Iwl Caisar ar ffo; eithr os anrheithio a difrodi cyfoeth y naill y llall, a rhyfela â'ch gilydd, yw eich dewis, byddwch sicr o fod yn gaethweision i'r Rhufeiniaid."

Ond yr un peth a fuasai canu pibell yng nghlustiau'r byddar a cheisio eu perswadio hwy i fod yn heddychol; canys dilyn eu hen gamp ysgeler a wnaethant hwy fyth, i ymryson a Ilofruddio eu gilydd; fel y gwelwch chwi adar y tô yn ymgiprys am ddyrnaid o ŷd, heb wybod fod hynny yn eu harwain at y groglath. Ar air, cymaint oedd eu cynddeiriogrwydd a'u malais fel prin y byddai cydfod parhaus rhwng y naill gantref a'r llall drwy y deyrnas.

Yn awr yn y terfysg a'r cythrwfl yma, fe ddigwyddodd i ryw ŵr mawr a elwid Meuric gael ei ysbeilio o'i gyfoeth a'i awdurdod,—llosgi ei dai, anrheithio ei diroedd, llofruddio ei ddeiliaid, a'i yrru yntef ar draws gwlad i gael noddfa lle y gallai. Ac yn y wŷn danbaid hon, efe a aeth dros y môr i wahawdd Gloyw Caisar i oresgyn ynys Brydain; yr hyn a ddigwyddodd o gylch blwyddyn yr Arglwydd 44, a hynny oedd agos i gan mlynedd ar ol i Iwl Caisar dirio yma gyntaf.

Ac yno Gloyw Caisar, amherawdwr Rhufain, a alwodd ei bencynghoriaid ynghyd i wybod eu barn, pa un a wnai efe ai rhyfela â'r Brutaniaid ai peidio a fyddai oreu. A hwy a atebasant,—"Digon gwir fe gadd Iwl Caisar ei drin yn hagr a'i faeddu ganddynt; eto ystyried dy