Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ion ladronach hynny, ac ennill anrhaith fawr iawn oddiarnynt. Ond yn y cyfamser efe a drodd yn ben-lleidr ei hun, ac yn fradwr idd ei feistr, ymherawdwr Rhufain; canys yr holl gyfoeth yma a gadwodd efe yn ei feddiant ei hun, a rhag y gelwid ef i gyfrif am hynny, efe a lanwodd ei longau â'r ysbail ac a hwyliodd i Frydain, a thrwy ei weniaith hudol efe a enillodd galonnau'r Brutaniaid, gan wneuthur araith a dywedyd y caent hwy esmwythach byd dan ei lywodraeth ef na chan y Rhufeiniaid, ac y byddai efe yn gyfaill cywir iddynt rhag ymgyrch un gelyn pa un bynnag. Er pan gafodd efe y llywodraeth yn ei law, efe a ymddygodd yn ormeswr creulon yn hytrach nag ymgeleddwr, megis y gwelwn ni lawer bore teg o haulwen haf yn diweddu mewn dryghin. Ond eto, o ran ei fod ef yn cadw llaw dynn ar warr y Brutaniaid, ei hen feistr, Dioclesian oedd ei enw, a heddychodd âg ef, ac a gadarnhaodd ei frenhiniaeth ym Mhrydain; am ba ham y mae ar naill wyneb yr arian a fathwyd dan ei lywodraeth ef, ddwy fraich estynedig yn siglo dwylaw. Ac y mae y fath hon heb fyned ar goll eto.

Lle nid oes dim hawl dda, y mae yno yn wastad ofn. Ac felly Caros, i ddiogelu ei hunan yn y frenhiniaeth, a adeiladodd saith gastell wrth Wal Sefer, yn gynifer amddiffynfa i gadw allan y rhai oedd yn edrych arno ddim amgen na charn-leidr mewn awdurdod; ac efe a wnaeth hefyd dŷ mawr crwn o gerrig nadd ar lan Caron i gynnal llys ynddo pan y byddai efe yn y parthau hynny. o deyrnasiad gerwin a llym, efe a laddwyd yn Ond ar ol saith mlynedd fradychus gan ei swyddog ei hun, yn yr hwn