Tudalen:Drych y Prif Oesoedd Ab Owen.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ond y mân drefydd oeddynt megis cynifer goddaith yn fflamio hyd entrych awyr, a'r trigolion druain yn rhostio'n fyw yn eu canol; tra'r oedd y Brithwyr, hwythau a'u cyfeillion, plant annwn, yn agor eu safnau cythreulig o grechwen.

Yn y cyfamser, nid oedd Macsen Wledig ddim yn anhysbys o gyflwr gresynol ei wlad; ac er cynddrwg dyn y bernir ef gan rai, eto ar hyn o bryd efe a ddanfonodd trosodd ddwy leng, hynny ydyw, o gylch pedair mil ar ddeg; ac fe allasai hebgor hynny yn hawdd ar hyn o dro; canys yr oedd efe eto yn Ffrainc, a'r holl deyrnas honno a'i chyffiniau wedi ymddarostwng dan ei lywodraeth. Erioed ni bu llu o wŷr arfog mor gymeradwy a phan diriodd y llu hwn yn gymorth cyfamserol i'r Brutaniaid. Y gelynion oeddent o leiaf dri chymaint o nifer, ac ar hyn o bryd wedi gwasgaru yn finteioedd o fesur pedwar neu bum cant ynghyd dros wyneb y deyrnas; a chyn cael oedfa na chyfle i ddyfod ynghyd yn gryno, y rhai o gylch Kent, Llundain a chanol Lloegr a gwympwyd bob yn fintai agos i gyd; ond y rhai o gylch Cymru ac yn agos i lan y môr a ddiangasant yn eu coryglau i'r Iwerddon.

Eisieu rhagweled pethau mewn amser a fu'n dramgwydd i filoedd; ac yn nyddiau disglaer. i esgeuluso parotoi rhag dryghin, yw rhan yr ynfyd. Ac felly ar hyn o bryd, ar ol cael y trechaf ar eu gelynion, nid oedd yr hen Frutaniaid ysmala yn pryderu rhag un ymgyrch arall; ond diswyddo eu milwyr a wnaethant, megis pe na buasai dim rhaid wrthynt mwyach. Nid oes yn wir ddim hanes neillduol, oblegid pa ddrygau a wnaeth y Brithwyr a'u cyfeillion dros rai blyn-