Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

odd y cweryl i'r fath radd fel y torodd allan yn ymraniad gofidus. Mewn cymanfa fechan yn Llanidloes, tua y flwyddyn 1754, y daeth yr ymraniad i hollol benderfyniad: o hyny allan aeth y bobl yn ddwy blaid; pobl Mr. Harris, a phobl Mr. Rowlands, fel y galwent hwy. Bu yr effeithiau o'r tro galarus hwn yn dra niweidiol trwy Gymru. Aeth y pleidiau i ymddadleu ac i ymryson â'u gilydd, hyd nes y drylliwyd y cymdeithasau bychain ar hyd y wlad yn chwilfriw, ac yr aeth crefydd yn isel, a braidd i'r dim mewn llawer o ardaloedd lle y buasai ymddangosiad golygus unwaith. Gallasid dywedyd fod y wlad o'i flaen fel gardd Paradwys, ac ar ei ol yn ddiffeithwch anghyfaneddol. Nid oedd fawr o'r pregethwyr yn gwybod nemawr am yr anghydfod, cyn i'r ymraniad dori allan yn gyhoeddus yn nghymanfa Llanidloes. Aeth amryw o'r llefarwyr, yn llawn zel o ochr Mr. Harris; ereill a lynasant wrth Mr. Rowlands; o ba rai yr oedd Mr. W. Williams, Mr. P. Williams, Mr. H. Davies, Mr. D. Williams, Mr. John Belcher, ac amryw ereill.

Wedi ymranu fel hyn, aeth y llefarwyr oedd o blaid Mr. Harris yn ddiymaros trwy y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, lle yr oedd cymdeithasau neillduol wedi eu sefydlu; yna ar ol y bregeth galwent y cyfeillion yn nghyd, gan ofyn iddynt pwy oedd o du yr Arglwydd; a'i bod yn bryd iddynt ochelyd cael eu twyllo, gan sicrhau fod yr offeiriaid, fel yr arferent alw Mr. Rowlauds a'i ganlynwyr, wedi colli Duw. Gan fod hyn yn beth mor ddyeithr ac annysgwyliedig i'r rhan fwyaf o eglwysi, a hwythau yn dyner eu cydwybodau ac yn ieuaingc mewn proffes, taflodd hyny y fath ddyryswch i'w meddyliau nas gwyddent ar ba law i droi. Ofnodd llawer fyned yn agos at Mr. Rowlands a'i blaid, rhag cael eu twyllo, fel yr oedd y dysgawdwyr ereill wedi eu rhybuddio. Cauwyd y drysau mewn amryw fanau fel na chai Mr. Rowlands, na neb o'i ganlynwyr, dderbyniad i bregethu: ond o radd i radd dychwelyd a wnaeth y rhan fwyaf at blaid Mr. Rowlands, y rhai oeddynt yn dal y wir athrawiaeth yn fwy cyson na'r lleill: er hyny bu yspaid maith o amser ar ol hyn, tair blynedd ar ddeg o leiaf, heb un diwygiad neillduol yn un parth o'r wlad. Yn yr yspaid maith hyny o amser, y rhoddes rhai ag oedd wedi dechreu pregethu y gorchwyl heibio dros flynyddau, o herwydd petrusder a digalondid. Cafodd y gelyn diafol oddefiad y pryd hyny i ddyfod fel gwaedgi uffernol i ganol y praidd, i darfu y defaid, eu herlid, a'u gwasgaru ar hyd yr anialwch; ac oni buasai i'r Bugail da, o'i fawr gariad a'i ras, ofalu am danynt, darfuasai am y praidd yn llwyr. Ond gan eu bod wedi eu rhoddi iddo gan y Tad i'w cadw, aeth ar eu hol i'r anialwch, gan eu dwyn adref ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen. Am-