Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yw Rhagluniaeth y Nef. Wedi iddo sefydlu fel hyn, a dwyn yn mlaen yr adeilad yn Nhrefecca, ymgasglodd yno gryn nifer o bobl o amryw barthau o Gymru, fel yr oeddynt, tua dechreu y flwydddyn 1754, yn nghylch cant o nifer yn sefydlog yno, heblaw llawer fyddai yno yn achlysurol. Arosodd llawer yno hyd ddiwedd eu hoes; ereill a ddychwelasant i'w cartrefi am nad oedd eu hamgylchiadau yn goddef iddynt aros. Daeth rhai teuluoedd o Wynedd i fyw i'r teulu, ereill a gymerasant dyddynod yn y gymydogaeth, er mwyn gweinidogaeth Mr. Harris; ond ni chyfrifid y rhai a gymerent dyddynod, yn lle byw yn y teulu, fawr amgen na phroselytiaid y porth. Llawer o deuluoedd tylodion a dderbyniwyd o bryd i bryd i'r teulu, ac amryw â meddiannau ganddynt a ddaethant yno hefyd: ond os byddai i neb, wedi rhoi eu meddiannau i'r teulu, flino ar eu lle a myned tua eu cartrefi ni chaniateid iddynt gael nemawr o'u meddiannau i fyned yn ol. Hyn a rhai pethau ereill nad oeddynt weddus yn y gŵr duwiol hwnw, a fu yn foddion i ollwng miloedd o dafodau rhyddion yn Nghymru, nid yn unig i gablu Mr. Harris, ond hefyd i enllibio crefydd a chrefyddwyr er ei fwyn, gan haeru mai pentyru cynysgaeth i'w ferch yr ydoedd (canys un ferch oedd ganddo) a'r cyfoeth oedd gan y naill a'r llall yn dyfod i Drefecca. Ond ar ol ei farw canfyddwyd ei fod yn ddidwyll am y cyfoeth a roddwyd dan ei ofal, fel na adawodd un geiniogwerth i'w ferch yn ei ewyllys ddiweddaf, ond cynysgaeth ei mam yn unig; a'r eiddo oll oedd yn perthyn i Drefecca i fod rhwng y teulu dros byth. Y mae yn ddiddadl i lawer fod yn feddiannol ar dduwioldeb amlwg yn y teulu hwnw, a gadael tystiolaeth eglur, ar eu hymadawiad oddiyma, fod eu Prynwr yn fyw, ac y gwyddent i bwy yr oeddynt wedi credu. Hyny oedd yn feius yn amryw o honynt, eu bod yn cynwys meddyliau rhy gyfyng am bob plaid o grefyddwyr na byddai yr un agwedd a threfn a hwy yn Nhrefecca; ond y mae y canolfur gwahaniaeth hwnw wedi ei symud yn awr er's llawer blwyddyn.

YMOF. Dychrynllyd y galanastra a wnaeth y gelyn yn moreuddydd y diwygiad: peth aruthr ac erchyll a wnaed yn y tir. Gresyn i'r gwynt drwg oddiar yr anialwch wywo, dros faith amser, gynifer o flodau perarogl oedd mor hardd yr olwg arnynt yn ngwinllan Duw. Gobeithio y bydd i'r tro gofidus hwnw, a'r canlyniad o hono, fod yn rhybudd deffrous i bob cangen o eglwys trwy y byd, na ryfygont rwygo corph Crist, sef ei eglwys. Oni b'ai ofn eich blino, ewyllysiwn glywed genych a arosodd y pregethwyr a unodd gyda Mr. Harris i orphen eu gyrfa yn Nhrefecca?

SYL. Naddo, ychydig a drigodd yno hyd eu marwolaeth.