Tudalen:Drych yr Amseroedd, Robert Jones, Rhoslan.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

corph Crist, na thori asgwrn o hono. Ond er mwyn ei ddyweddi, fe gymerodd Iesu ei ddryllio gan y cleddyf wedi ei ddeffro; oblegyd "yr Arglwydd â fynai ei ddryllio ef," fel y byddai ei gorph, sef ei eglwys, yn gyfan i dragywyddoldeb.

Tua y flwyddyn 1762, yn wyneb mawr annheilyngdod a gwaeledd, cofiodd Duw ei gyfamod, trwy ymweled yn rasol â thorf fawr o bechaduriaid ar hyd amryw o ardaloedd Cymru: cododd Haul cyfiawnder ar werin fawr o'r rhai oedd yn mro a chysgod angeu. Gellid dywedyd yn y dyddiau hafaidd hyn, "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith. Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y durtur yn ein gwlad."

Yr oedd gwahaniaeth mawr rhwng y diwygiad yma a'r hwn a duechreuodd ar y cyntaf trwy Howell Harris: yr oedd hwnw o ran dull ei weithrediadau yn llym ac yn daranllyd iawn: ond yn hwn, megys gynt yn nhŷ Cornelius, tyrfaoedd lluosog yn mawrygu Duw heb allu ymatal, ond weithiau yn llamu o orfoledd, fel Dafydd gynt o flaen yr arch. Treulid weithiau nosweithiau cyfain mewn sain cân a moliant, fel tyrfa yn cadw gwyl. Clywais gan hen wraig dduwiol iddo barhau dri diwrnod a thair noswaith yn ddigyswllt, mewn lle a elwir Lonfudr, yn Lleyn, yn Sir Gaernarfon, y naill dyrfa yn cylchynu y llall; pan elai rhai adref, deuai rhai ereill yn eu lle; ac er myned i'w cartrefi dros ychydig, ni allent aros nemawr heb ddyfod yn ol. Pan ddaeth y tywalltiadau grymus hyn ar amryw o gannoedd, os nad miloedd, trwy y Deheudir a Gwynedd, bu llawer o gynhwrf a dadleu yn ei gylch; daliwyd llawer â syndod, gan ddywedyd, "Beth a all hyn fod?" "Meddwon ydynt," meddai rhai; "O'u côf y maent," meddai ereill; yn debyg iawn i'r rhai hyny gynt ar ddydd y Pentecost: ond ni feiddiodd braidd neb wneyd niwaid iddynt, ond yn unig eu gwneuthur yn nod i gynen tafodau.

YMOF. Hyfryd genyf glywed am y diwygiad y soniasoch am dano, a'i ymdaeniad helaeth. Mae yn sicr, ynghyda'r haleluia, a'r gorfoledd siriol, fod yn ei ganlyn, neu ynte yn ei ragflaenu, argyhoeddiadau deffrous, a galar dwys am bechod, a thro amlwg ar fuchedd y rhai oedd yn ei brofi. Ond bu agos i chwi anghofio adrodd ychydig o'ch golygiadau ar y pethau fu fwyaf tebygol i ddrygu crefydd, ac i dristâu yr Yspryd Glân.

SYL. Yn y dyddiau hafaidd hyn pan oedd yr haul yn tywynu mor ddysglaer, a'r gwlith a'r manna yn dyferu mor hyfryd, yr oedd athrawiaethau rhad ras yn cael eu traddodi yn oleu ac yn ogoneddus. Cyfiawnhad trwy ffydd yn unig, heb weithredoedd y ddeddf; llwyr ddiddymu haeddiant dyn; ac nad oedd ei gyfiawnderau ond fel bratiau budron; ac mai