Am ddefnydd y tafod a'r clustiau nis gŵyr,
Rhaid agor y meddwl drwy'r llygaid yn llwyr.
Aeth miloedd o'r Cymru oedd fyddar a mud,
Heb weled un cynyg at addysg, o'r byd;
Darpariaeth sy'n ymyl ein gwladwyr, yn awr,
Pwy beidiai roi cymorth mewn gorchwyl mor fawr?
—CALEDFRYN.
FY NGENEDIGOL FRO.
Hoff yw gwen y bore glan,
Gwawr huan a'i phelydron;
Hoff yw gwrandaw'r adar man,
Yn plethu eu caneuon;
Hoff a mwyn yw rhodio'r ardd,
Yn mhlith y rhôs a'r lili;
Ond mil hoffach gan y bardd,
Yw'r fro y'i ganed ynddi.
Hoff yw rhodio, deg brydnawn,
Hyd lwybrau'r gwigoedd gwyrddion;
Hoff yw'r cerddor maws ei ddawn,
A hoff yw gwaith prydyddion;
Hoff yw caingc yr eos bêr
O gylch y lawnt agored;
Ond mwy hoff na dim is sêr,
Yw bryniau'r fro lleʼm ganed.
Hoff yw goleu'r lleuad wèn
I dawel rodio allan;
Hoff yw'r fraith serenog nen,
A holl brydferthwch anian;
Hoff gan rai yw nofio'r lli
I gasglu ' nghyd gynysgaeth;
Ond mil hoffach genyf fi
Yw bro fy ngenedigaeth.
—D. S. EVANS.