Tudalen:Dyddanwch yr aelwyd.djvu/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A llygaid byw ei dad i'w ben,
Ei wallt sidanaidd ad—
Lewyrchu'n lwys, fel euraidd wê,
Yn nechreu'i oes ddinam ;
A charu 'rwyf fy rhosyn pêr
A mawrder cariad mam .
Na feier anwadalweh merch, &c.

Ond pan — 'gan wenu,' ar fy nglin,
Y cwsg fy mhlentyn cu ;
Aitf serch o ganu "Heili Iwl"
I feddwl am a fu;!
Darlunia wawl yr Aurora—
Bor'alis, ar dy rudd,
Yn chwareu ar gyhurau hon,
Deimladau 'th galon gudd.
Na feier anwadalwch merch, &c

Fy Naf, a ŵyros hyn a fu,
Ordeiniwyd felly i fod;
Rhaid celu'r hynt,—ond dyma'r modd
'R annelodd angau'i nôd.
Deffroes fy maban hoff;—Ffarwel
Bydd wych fy llengcyn llon ,
'Does dim ond priddell dèn a dýr
Y frwydyr yn y fron.

Na feier anwadalwch merch,
Mae pangau serch'n anhawdd eu dwyn;
Bu'st er,—Ond cofiaf byth dy wen,
Fy anwyl Fachyen Mwyn.
 —GWILYM COWLYD.