Tudalen:Dyddgwaith.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

wnawn innau. Ond nid amheuais ef erioed, canys sicr fyddwn mai efô a wyddai.

Dysgais wedi hynny beth nis gwyddwn y pryd hwnnw, sef bod y gamp honno i'w chael hefyd ar waith meistriaid ieithoedd eraill, y Gymraeg yn eu plith, ac nas ceir ar bob rhyw beth a sgrifennwyd hyd yn oed yng Ngroeg a Lladin, nac ar rai o'r pethau a astudir ymhlith eu clasuron hwythau. Ond yn y dyddiau rhy brin hynny y cafwyd cip ar ffynnon glewder meddwl a gloywder ymadrodd, ffynnon a yrrodd ei goferau ymhell ac a fu'n fam i'r lleill. Pan ddêl egwyl ar dro i grwydro'n ôl o'r brys a'r sŵn a oddiweddodd bopeth, bydd y ffynnon honno'n dawel ac yn loyw o hyd, yn murmur profiad dilys, craffter a doethineb, hoffter at natur, cyfeillgarwch, caredig rwydd hyd yn oed at gaethion, edmygedd at symledd ac urddas dynion dewr dirodres, ai gwyllt ai gwâr. Honno yw ffynnon y Clasuron, "splendidior vitro" hithau.