Tudalen:Dyddgwaith.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ysbaid yn y ffasiwn—erbyn heddiw, gwaith pennaf llawer o'r ymchwilwyr yw chwilio am wlad lle bo siawns am damaid o fwyd. Yr oeddis y pryd hwnnw yn cwestiyno pob peth, gyda phrysurdeb sydd erbyn hyn yn edrych fel pe buasai gan ddynion ryw fud ymwybod y byddai cwestiyno unpeth yn y man yn beth gwaharddedig.

Hyd yn oed yn y ddinas fwyaf gwlatgar yn Ewrop, gellid chwilio hanes a thwf gwladgarwch yn weddol ddiogel, a gallai dynion o wahanol wledydd gyd-weithio'n gyfeillgar.

Cwmni bychan oeddym o fyfyrwyr ieuainc a thanbaid, i gyd â'n bryd ar wahanol weddau i'r un pwnc, y dystiolaeth newydd a ddarganfuwyd am hanes gwareiddiad a gladdwyd, cofnodion gwladgarwch oedd â'i wreiddiau mewn hynafiaeth nad oedd na Groegaidd na Rhufeinig, mewn crefydd gyntefig, efallai mewn athroniaeth gyntefig, na cheid ond rhyw grybwylliad arwynebol amdani gan ambell lenor clasurol. Eto, yr oeddym yn byw yng nghanol gweithgarwch egnïol gwladgarwch ein cyfnod ein hunain, yng nghanol cofgolofnau ei fuddugoliaethau a'i orchfygiadau yng nghwrs ei ymdrech