syml bron bob amser—"O ble?" "I ble?" "I be?" A'r un atebion, weithiau'n ffaith, ran amlaf yn gorfod bod yn ddim ond dychymyg noeth, canys byddai'r dirgelwch yn gymaint i ni'n dau.
Unwaith, wedi profiad felly, megis un a ofynno tan ei lais beth nis dylai, rhyfygais innau holi pa beth yr oedd Hi yn ei wneud. Cododd ei phen yn araf, gwenodd ryw wên fach wylaidd, fel y pelydryn lleiaf o heulwen yn dyfod yn sydyn ac yn mynd yn ebrwydd. "Melwl," meddai. Ac yn ddioed cyfododd ar ei thraed a mynd rhagddi gyda'i chwarae yn union fel o'r blaen. A minnau'n teimlo fel pechadur wedi torri ar fyfyrdod sant, mor drwsgl â phe na bai i mi na phwyll na pharch.
Ie, "melwl." Ac ond odid yn ddwysach ac unionach nag y bydd neb ohonom ninnau'n gwneuthur hynny byth er pan ddysgasom ddodi mil o ffurfiau ar yr un cwestiynau tragywydd, "O ble?" "I ble?" "I be?"