Tudalen:Dyrif etholiadol Ceredigion 1892, gan W. W. (IA wg35-2-2523).pdf/1

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyrif Etholiadol Ceredigion
1892.

Nawr Aelodau'r Tŷ Cyffredin,
Sy'n apelio at y Werin,
Un ac oll bo Ceredigion,
Dros yr Aelod fu mor ffyddlon;

Chorus——
Safwn dir am y gwir,
Mynwn Aelod fo'n anrhydedd,
Yn y Senedd dros ein Sir.

Un o rodiad pur dirodres,
O gynghorwyr ein Brenhines,
Llawn dynoliaeth a thwym galon,
Dyma'r dyn i Ceredigion.

Chorus—Safwn dir am y gwir, &c.

Gan ei ddoniau syna ddynion,
Wrth amddiffyn carcharorion,
Gyda sel amddiffyn ninau,
Rhag dyoddef cam gyfreithiau.

Chorus—Safwn dir am y gwir, &c.

Os yw Rolands yn Rhyddfrydwr
Hwn sy'n addas fel Seneddwr,
Gwyr holl dybiau yr Undebwyr,
Cyngor Counsel i'r Ceidwadwyr.

Chorus—Safwn dir am y gwir, &c.

Un o deimlad at yr estron,
Un am rhyddid i'r Iwerddon,
I lywyddu'r wlad a feddant
Dyma'r dyn yw Bowen Rolant.

Chorus—Safwn dir am y gwir, &c.

I bob Sect a Phlaid dymuna,
Gyflawn ryddid i grefydda,
Ac i ddewis rhai i'w harwain,
Pawb i dalu traul ei hunan.

Chorus—Safwn dir am y gwir, &c.

Nid yn breibio plaid ag arian,
Gyda rhai'n enwogi eu hunain,
Nid fel hyn mae Bowen Rowlant,
Yn ei addysg mae ei lwyddiant.

Chorus—Safwn dir am y gwir, &c.

Ceredigion gwnawn ein goreu,
I gael gwasanaeth dysg a doniau,
Dynion pwyllog doeth nis gallant
Byth a gwrthod Bowen Rolant.

Chorus—Safwn dir am y gwir, &c.

—W. W.


Argraphwyd a Chyhoeddwyd gan T. L. Davies a'i Gyf.,
Caxton Hall, Llanbedr.