Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGAIR

Gwêl pob darllenydd, deallus ac anneallus, aml a mawr ddiffyg- ion y gyfrol hon. Bwriwyd hi at ei gilydd ynghanol "bagad gofalon bugail, ac ynghanol peryglon o'r awyr i fywyd, ddydd a nos. Pan aem i orffwys, ni wyddem lai na chwelid i'r pedwar gwynt, neu y dinistrid gan dân, yr hyn a baratoesem, cyn y gwelem fore drachefn; os, yn wir, y gwelem fore.

Yn dra ysbeidiol y medrem neilltuo amser i'r gwaith hwn. Canfyddir hynny yn ein horgraff a'n trefn, neu'n hytrach yn ein diffyg cysondeb a threfn.

Ni wyddom i ba gynorthwywyr y dylem ddiolch rhag lluosoced ydynt. Y maent yn lleng. Synasom drachefn a thrachefn at fawr- frydigrwydd a graslonrwydd brodyr a chwiorydd a adwaenem, ac at barodrwydd i'n cynorthwyo o du eraill na welsom erioed. mohonynt, ac na welwn mwyach, y mae'n debyg, canys datodir ein pellen yn gyflym.

Ymgais yw'r eiddom ni i ddwyn sylw ar ein cymwynaswyr. Gwelir ein camgymeriadau a'n hanhrefn; eithr o thry darllenydd a fedd helaethach dawn a gwybodaeth fanylach i wneuthur y gwaith yr anelem ni ato, bydd hynny i ni'n fawr wobr.

Diolchwn o'n calon i'r lliaws a fu'n gymwynaswyr inni. Hebddynt hwy ni allem ni wneuthur onid ychydig. Diolchwn yn arbennig i'r Golygydd Cyffredinol, y Parch. John Owen, M.A.

Yr eiddoch yn eich dyled,

JOHN THICKENS. Ionawr 5, 1945.