Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/10

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGLITH.

Mae llawer o'r Gwaith canlynol yn hen ymchwiliad o'n heiddo. Yr ydym wedi ein geni, ein magu, a threulio y rhan fwyaf o'n hoes yng Ngheredigion; ac at hyny, wedi talu llawer o sylw i hynafiaeth y wlad, gan ysgrifenu nid ychydig ar y pwnc i wahanol gyfnodolion, ac felly dysgwyliwn na chaiff un hynafiaethydd ei siomi yn y gwaith. Ond am yr anneallus, ni fydd ei syniad am dano o un pwys.

Cydnabyddwn lyfryn trylen y Parch. W. Edmunds, ar Hen Deuluoedd yn ardal Llanbedr, am rai o'r defnyddiau sy genym.

Mae pob cangen o wybodaeth yn gofyn llawer o ymchwil cyn ei meistroli; ond y mae yr "Eisteddfod," neu yn hytrach un neu ddau o'i swyddwyr, yn golygu hynafiaeth Gymreig yn wahanol, gan y penodir dynion heb erioed dalu sylw i'r wyddor yn feirniaid; ac ymesyd dynsodion anhynafiaethol at ysgrifenu, a thyciant yn fynych i gael gwobrau, ac felly mae Uenyddiaeth Gymreig yn ddirmygus yng ngolwg y byd.