Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Arwydd y Prophwyd Ionah," yr hon a ymddangosodd yn Seren Gomer. Dywedir ei fod yn wr rhydd ei ysbryd yn rhydd oddi wrth gulni plaid a phethau tebyg, ac felly yn barchus iawn gan bawb a'i hadwaenai. Ei lythyrau yn y Gwyliedydd, Gwladgarwr, &c., a'i profant yn llenor trylen; a chywydd ar “Edwinedd Einioes" o'i eiddo yn y Gwyliedydd, a'i dengys yn fardd campus.

HUGHES, JOHN, Archiagon Ceredigion, a aned yn y fl. 1787, ac ydoedd fab ac etifedd John Hughes, Ysw., o'r Llwyn Glas, plwyf Llanfihangel Geneu'r Glyn. Cafodd ei ddysgeidiaeth yn Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig, o dan yr athraw medrus y Parch. John Williams, lle yr enwogodd ei hun trwy ei lafur a'i lwyddiant. Symmudodd wedi hyny i gymmeryd gofal ysgol glasurol yn Putney. Bu yno yn dra diwyd, a gwrteithiodd lawer ar ei feddwl. Urddwyd ef yn ddiacon ac offeiriad yn y flwyddyn 1811, gan Esgob Llanelwy. Ei guradiaeth gyntaf oedd Llandrillo yn Rhos, yn agos i Aberconwy. Ymgyflwynodd yma yn hollol at y weinidogaeth, gan ymdrechu a'i holl egni i ennill eneidiau at Grist. Dywedir fod dylanwad ei bregethau a'i fywyd yn fawr trwy yr holl gymmydogaeth. Darlithiai mewn bythod pellenig o'r plwyf, gan achub pob cyfle i ennill y trigolion i arwain bywyd newydd. Tra yno, cyhoeddodd gyfrol o bregethau, a chawsant gylchrediad helaeth, a darlleniad ymofyngar a chymmeradwy gan y genedl. Yn 1817, cymmerodd guradiaeth Foleshill, yn agos i Coventry. Llanwyd yr Eglwys yn fuan, a llawer a ennillwyd at y Gwaredwr. Ffurfiodd yma gyfeillgarwch gwresog a phrif deuluoedd y lle. Yn y flwyddyn 1822, bu farw periglor y plwyf, ac anfonodd y plwyfolion ddeisyfiad at yr Arglwydd Ganghellydd Eldon, ar ran eu curad; ond ni lwyddasant, gan (fel y dywedir) fod yr Arglwydd Ganghellydd yn groes i weinidogaeth “efengylaidd” Mr. Hughes. Symmudodd y pryd hyny i Deddington, sir Rhydychain. Deuai llawer o efrydwyr y Brifysgol i'w wrando. Bu John Henry Newman yno unwaith, yr hwn a ddaeth wedi hyny y blaenaf o'r blaid Dractaraidd, ond sydd heddyw yn ben ar urdd Rufeinig St. Philip Neri, yn Birmingham. Yr oedd ei blwyf yn cynnwys tua 2000