amser, byddai yn arfer chwareu ben alawon gwlad ei enedigaeth ar y gorgrwth (violoncello). Diangodd rhag syrthio yn ysglyfaeth i'r haint hwnw; ond eto, fe effeithiodd yr hinsawdd ym mhell ar ei gyfansoddiad. Ar ol dychwelyd i Brydain, bu yn gwasanaethu curadiaeth yn Ynys Wyth, ac yn genadwr neu gapelydd i'r Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristionogol yn St. John's, Newfoundland. Gan i'w ymddygiad hawddgar a gweithgar ennill iddo barch mawr gan ei Lyngesydd, Arglwydd Radstock, cafodd ei gymmeradwyo ganddo i Dr. Burgess, Esgob Ty Ddewi, a derbyniodd gan y gwr rhagorol hwnw un o'r bywoliaethau goreu' yn yr esgobaeth, sef Ceri, swydd Drefaldwyn, yr hon oedd yn wag trwy farwolaeth y Parch. J. Carless. Yr oedd y gwr hwnw wedi esgeuluso y persondy a phob peth perthynol i'r plwyf drwy fyw yn absennol, fel yr oeddynt yn adfeilion. Cymmerodd Mr. Jenkins feddiant o berigloriaeth Ceri yn y flwyddyn 1808, a chyn hir, gwnaeth yno un o'r persondai tlysaf yn yr holl wlad. Priododd foneddiges ragorol, o'r un chwaeth ag ef ei hun, sef merch y Parch. E. Jones, Aber-rhiw. Yr oedd hefyd yn un o gor-berigloriaid Caerefrog ac Aberhonddu, ac yn gaplan i Ddug Clarence, a gwlad-ddeon Maelienydd. Ymddysgleiriai ym mhob rhinwedd. Yr oedd ei galon yn llawn haelioni ac elusengarwch; yr ydoedd hefyd yn llawn gwladgarwch; a gwnaeth fwy na nemawr neb dros lenyddiaeth Gymreig yn ei oes. Dan ei gronglwyd lettygar ef yn y flwyddyn 1817, y ffurfiwyd y penderfyniad cyntaf i adfywio yr eisteddfodau yng Nghymru; a bu ynddynt yn y pedair talaeth, hyd oni chanfu eu bod yn raddol yn dirywio oddi wrth eu hamcan cyssefin, ac yn myned yn debyg i goegchwareuaeth Seisonig neu Italig. Byddai yng ngwyliau Nadolig yn agor ei breswylfod i roesaw cyfeillion llenyddol a barddol am amryw ddyddiau, yn ol dull y dyddiau gynt. Yn y flwyddyn 1821, bu ganddo westfa o'r 8fed hyd y 12fed o Ionawr, pryd yr oedd yn bresennol y Parchedigion Gwallter Mechain; W. J. Roes, Cascob; D. Richards, Llansilin; T. Richards, Aber-rhiw; Meistri R. Davies, Nantglyn; John Howell, Glandyfroedd; Aneurin Owen; Taliesin Williams, ac ereill.
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/124
Gwedd