boreu dydd Gwener, Hydref 28, 1796, a chladdwyd ef yn Llangoedmor. Dyoddefodd gystudd blin, sef y cancr yn ei drwyn. Mae ei enw yn deuluaidd gan lawer iawn o hen bobl hyd heddyw. Mae o'n blaen gyfargraff o Ramadeg Dr. Sion Dafydd Rhys, ac arno “John Jenkins his book, paid for it to T. Davies, Parcgwningod, 1784;" ac ym mhellach, ei fod wedi ei roddi i'w wyr. Bu y llyfr gyda Thegid, yr hwn a'i prynodd gan orwyr y bardd.
JENKINS, NATHANIEL, oedd fab arall i Siencyn Tomos o Gwmdu. Ganwyd ef tua'r flwyddyn 1722. Yr oedd yn ddyn o alluoedd cryfion; ond nid cyfuwch a'i frawd fel bardd. Mae llawer o'i ganeuon ar gael, megys “Cŵn Llwyd o'r Cryngae," “Gwirfoddiaid Glanau Teifi,” “Mr. Morgan, meddyg, Dolgoch,” “Palas Troed yr Aur," “Tiriad y Ffrancod yn Abergwaen," &c. Bu farw yn nhy ei gâr, B. Williams, Tafarn Ysgawen, yn 1799. Pregethodd Dafis Castell Hywel yn ei angladd.
JENKINS, REYNOLD, o Garog, oedd fab Jenkin Morgan, Ysw., o'r lle hynafol hwnw, ym mhlwyf Llanddeiniol. Cymmerodd y boneddwr hwn ran helaeth yn helyntion ei wlad yn amser y ddau Siarl. Penodwyd ef i gael urdd Marchog y Dderwen Freninol. Yr oedd ei ystâd yn y flwyddyn 1660 yn werth 700p., yr hwn swm oedd fawr iawn y pryd hyny. Cynnrychiolydd y teulu yn bresennol yw W. H. Sinnett, Ysw., mab benaf y Parch. John Sinnett, person Bangor ar Deifi.
JENKIN, NATHANIEL, oedd enedigol o ran isaf y sir. Bu yn weinidog y Bedyddwyr ym Mhantteg, ac wedi hyny yn Cobansy, America. Safai yn uchel iawn fel pregethwr. Bu farw yn 1754, yn 76 oed.
JOHNES, THOMAS, o Hafod Ychtryd, a hanai o Johnesiaid Llanfair Clydogau, Llanbadarn Fawr, ac Ystrad Tywi. Yr oedd yn disgyn o Urien Rheged, ac yn ol ei achres yn gywir o Brydain ab Aedd Mawr. Cafodd ei eni yn y flwyddyn 1748. Derbyniodd ei addysg yn Eton a Choleg Iesu, Rhydychain, lle y cymmerodd ei raddio yn A.C. Daeth i fyw i'r Hafod yn 1783, pryd nad oedd y lle ond diffaethwch diffrwyth; ac efe & ymroddodd at ei ddiwyllio yn y modd mwyaf penderfynol, gan roddi ei