a'r Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Grefyddol ym mysg yr Iuddewon, am flynyddau lawer, ac ennillodd lawer o glod am ei ffyddlondeb. Safai yn uchel fel pregethwr a gweinidog. Bu farw Tach. 7, 1861, yn 52 mlwydd oed.
JONES, EDWARD, gweinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn Aberystwyth, a aned yn y Rhiwlas, Llanfihangel Geneu'r Glyn, Medi 11, 1790. Tra yn aros yn Llundain, aeth i wrando John Elias; a than ddylanwad pregeth y gwr enwog hwnw, ymunodd â'r Trefnyddion. Bu wedi hyny yng Nghaerodor. Dychwelodd i'w fro enedigol, a dechreuodd bregethu, Mai 24, 1818; a chafodd ei urddo Awst 7, 1829. Yr oedd yn bregethwr cymmeradwy, ac yn hynod am ei benderfynolrwydd, ac ysbryd didderbyn wyneb; yn eithafol mewn manyldra dysgyblaeth. Treuliodd oes lafurus iawn mewn pregethu, a dwyn ym mlaen helyntion yr enwad ym mhob modd. Bu farw Awst 29, 1860, yn 70 mlwydd oed. Efe oedd y cyntaf a gladdwyd yng Nghladdfa newydd Aberystwyth.
JONES, EVAN, gweinidog yr Annibynwyr am flynyddau yn Ruscombe, a aned yn Esgeirgraig, plwyf Troed yr Aur. Mab oedd i'r Parch. Morgan Jones, Trelech, yr hwn oedd wedi priodi Miss Parry, etifeddes Esgeirgraig; ac yno y preswyliodd am flynyddau. Cafodd Evan Jones ei ddwyn i fyny yn Athrofa Henadurol Caerfyrddin. Urddwyd ef i gydlafurio â'i dad yn Nhrelech, lle yr arosodd am dair blynedd. Ar ol marwolaeth ei dad, symmudodd i Ruscombe, sir Gaerloew, lle y llafuriodd yn ddiwyd am ddeunaw mlynedd. Bu farw yn y Gareg Wen, ei dy ei hun, Mehefin 19, 1855. Hynodid Mr. Jones yn ei fwyneiddra, hynawsedd, a duwioldeb. Yr oedd hefyd yn bregethwr da, yn llawn addysg i'w wrandawyr, ac yn llawn o'r nodwedd wresog Gymreig. Dywedid ei fod yn fynych yn ymollwng i'r hwyl Gymreig ym mysg y Seison. Yr oedd yn barchus iawn gan ei gynnulleidfa, a chan bawb a'i hadwaenai.
JONES, Evan, gweinidog y Bedyddwyr yn Aberteifi, oedd enedigol o Landyssul. Bu yn Athrofa Caerodor am bedair blynedd. Yr oedd ei gynnydd yn fawr iawn yn yr athrofa-bob amser ym mlaenaf yn ei ddosbarth. Urddwyd