Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/158

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1649. Efe, ar ol hyny, a ymroddodd i astudio y gyfraith ddinesig; ac yn 1659 efe a gymmerodd y radd o Ddoethor yn yr alwedigaeth hồno. Yn y flwyddyn ganlynol, efe a gyhoeddodd "Oratio habita in Auditorio juridico, cum Recitationes solennes in Titulum de Judiciis auspicatus est," 8plyg., Rhydychain, 1660. Gyda'r gwaith hwn y mae dau draethawd arall, "De Judiciis, ubi de Persona et Officio Judicis apud Ebraeos et Romanos late disputatur;" a "De Origine Dominis et Servituatis Thesis Juridicae." Y mae y llyfrau hyn yn dangos ei fod yn ysgolor Groeg a Hebraeg o radd uchel. Wedi symmud i Lundain, lle y bu yn ymarfer yn y Rheithgoleg (Doctors' Commons), bu farw o haint y nodau yn y flwyddyn 1665.

JONES, THOMAS, sylfaenydd y Feibl Gymdeithas, a aned yng Nghefn yr Esgyr, yn agos i balas Hafod Ychdryd, yn y flwyddyn 1752. Yr oedd ei dad yn amaethydd bychan, ac yn berchen y tir ei hun. Yr oedd rhywbeth yn hynod mewn daioni yn Mr. Jones pan yn ieuanc. Pan yn dair ar ddeg oed, efe a anfonwyd i Ysgol Ramadegol Ystrad Meirig, o dan ofal yr hyglod Edward Richard, lle yr arosodd am tua naw mlynedd, pryd y cafodd ei urddo. Ei guradiaeth gyntaf oedd Eglwys Fach a Llangynfelyn, ger Aberystwyth. Cafodd ei urddo Medi, 1774, pan yn ddwy ar hugain oed; ac arosodd yn gurad yn yr Eglwysi hyn hyd Awst, 1779. Cymmerodd pryd hyny guradiaeth Leintwardine, yn swydd Henffordd, lle yr arosodd am tua blwyddyn a hanner; ac wedi hyny, efe a symmudodd i guradiaeth Lognor, swydd Amwythig. Tra yno, yr oedd arno ofal pedair Eglwys, a gwasanaethai dair o honynt bob Sul, gan adael un ar ei thro heb ei gwasanaethu. Gan fod ei iechyd yn wan, gorfu arno edrych am gylch â llai o waith; ac yng Ngorphenaf, 1781, efe a symmudodd i Groesoswallt. Ennillodd yno lawer o barch am ei aidd a'i ddiwydrwydd i helaethu ym mhlith ei blwyfolion deimlad o grefydd ysbrydol; ond oherwydd ei weinidogaeth "efengylaidd", gorfu arno ymadael yn Ionawr, 1782. Aeth wedi hyny i Loppington, ger Wem, yr hon guradiaeth a ddaliodd am dair blynedd. Ym Medi, 1785, efe a dderbyniodd guradiaeth Creaton, yn swydd Northampton,