Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/160

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Romaine. 4. Y Byd Cristionogol wedi ei Ddadorchuddio, gan Berridge. 5. Pregeth ar Farwolaeth Thornton, gan Scott. 6. Trathawd ar Fedydd Babanod. Hwn yw yr unig waith gwreiddiol yn Gymraeg. 7. Cyfaill Pechadur, yr hwn a gyfieithodd pan yn 83 oed. Cyhoeddodd y rhai canlynol yn Seisoneg:-1. Immanuel, or Scriptural Viewsof Jesus Christ, (1) 1799. 2. National Gratitude Expressed, â sermon, 1809. 3. Scriptural Directory. 1811. Mae y gwaith ardderchog hwn wedi cyrhaedd ei ddegfed argraffiad er ys ugain mlynedd. 4. The Welsh Looking-glass, 1812. 5. Jonah's Portrait, 1819. Cafodd wyth argraffiad o hwn ei ddwyn allan cyn pen hir amser. 6. The Fair Balance, 1824. 7. The Prodigals Pilgrimage, 1825. 8. Family Prayers, 1830. 9. Twenty-six Sermons, by the Rev. Morgan Lloyd, curate of Yspytty Ifan, translated from the Welsh, 1832. 10. The True Christian, 1833. 11. Sober Views of the Millennium, 1835. 12. The Interpreter, 1836. 13. An Essay on Infant Baptism, 1837. 14. The Christian Warrior, 1838. 15. An Essay on Idolatry of all Nations, 1838. 16. The Fountain of Life, 1838, a ysgrifenodd pan yn 87 mlwydd oed. 17. A Faithful Warning to Christian Congregations against the Oxford Heresy, 1841. Rhoddodd yn ei ewyllys 12p. y flwyddyn i Goleg Dewi Sant, Llanbedr, tuag at roddi gwobr flynyddol am y traethawd Cymreig goreu gan yr efrydwyr, yn ol penodiad llywodraethwyr y Coleg. Nid oes angen mynegu fod Mr. Jones yn un o'r dynion goreu a welodd ein byd erioed, a bod Lloegr fel hyn mewn dyled i Gymru am ei wasanaeth; a gwyn fyd na roddai yn ol i Wlad y Bryniau wasanaeth rhyw ddyn o'i debyg. Deil son am Thomas Jones, Sylfaenydd y Feibl Gymdeithas, tra'r byd yn bod : ys dywedodd Dewi Wyn yn ei "Elusengarwch,"

“Deall y byd oll o'i ben,
Gwel dlysau gwlad Elusen;
Yr oes hon, er ys ennyd,
Ceir hi'n ben coronau byd;