Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/166

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sylw mawr i'w alwedigaeth; ac nid oedd un meddyg yn y wlad yn cael cymmaint gwaith. Gyda'i wybodaeth a'i fedr, yr oedd yn meddu calon dyner a llawn cydymdeimlad, fel yr oedd ei fywyd yn werth mawr i'r wlad.

LEWIS, DAVID, D.D., a aned ym mhlwyf Llanddeiniol. Bu am ryw amser yn derbyn dysg yn Ysgol Ystrad Meirig, ac wedi hyny yn Rhydychain, lle y cafodd ei raddio, ac ar ol hyny ei urddo yn Eglwys Sant Iago, Piccadilly, Llundain, o dan Ddeon Caergrawnt. Bu wedi hyny yn brif athraw yn Ysgol Ramadegol Twickenham am ddeunaw mlynedd. Bu farw Ionawr, 1859.

LEWIS, JAMES, gweinidog yr Annibynwyr ym Mhencadair, a aned yn Ninas Cerdin, Llandyssul, yn 1674. Yr oedd ei dad yn wr boneddig, ac yn hanu o Morydd, brenin Ceredigion, yn y nawfed canrif. Mae holl briodasau teulu Dinas Cerdin yn ein meddiant; ac y mae yr achres yn dangos eu bod wedi cyssylltu â'r teuluoedd gorau yn ein gwlad, a hyny i lawr hyd y ddwy oes ddiweddaf. Cafodd Mr. J. L. ddysgeidiaeth uchel; a chafodd ei urddo yn y fl. 1706. Ystyrid ef yn bregethwr enwog. Cymmerodd ran yn y ddadl ar Galfiniaeth ac Arminiaeth â Jenkin Jones, Llwyn Rhyd Owain. Ysgrifenodd lyfr i amddiffyn Calfiniaeth. Yr oedd o gymmeriad uchel iawn yn y wlad. Bu farw Mai 23, 1747, yn 73 oed, a chafodd ei gladdu yn Llanllawddog, lle y mae cof-lech iddo. Cafodd ei ddilyn ym Mhencadair gan ei fab, John Lewis. Mae yn debyg fod y Parch. D. Lewis, curad Llanllawddog a Llanfihangel Rhos y Corn, ac wedi hyny periglor Llangatwg, ger Castell Nedd, naill ai yn frawd, cefnder, neu ryw berthynas agos arall i James Lewis. (1) Mae teuluoedd Dinas Cerdin, Troed