Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brif ynad siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Morganwg, ac yn un o'r barnwyr o flaen llywydd cynghor ei Fawrhydi yng nghyffindiroedd Cymru. Yr oedd hefyd yn gofiadur Aberhonddu. Ymddengys iddo gael ei wneyd yn farchog pan y cafodd ei benodi yn brif ynad. Yr oedd Syr Marmaduke yn gydoesydd â'r Ficer Prichard o Llanymddyfri; ac yn ol llythyr a gyhoeddwyd mewn argraffiad newydd o Ganwyll y Cymry, yr oeddynt yn gyfeillion. Mae'r llythyr hwnw wedi ei ddyddio yn "Ludlow Castle, the 21 of March 1626." Cydnebydd y marchog yr hen ficer am ei gynghorion. Nid yw yn hysbys pa bryd y bu Syr Marmaduke farw; ond y mae profion ei fod yn fyw yn 1640. Cafodd ei ddilyn yn yr etifeddiaeth gan ei fab Syr Francis Lloyd, yr hwn ydym wedi grybwyll yn barod. Gadawodd wyth o blant heb law Syr Francis, y rhai a gyssylltasant â'r teuluoedd parchusaf yn y wlad. Priododd Jane â Thomas Llwyd, Yow., Llanfair Clydogau; disgynyddion iddynt oedd y diweddar Thomas Johns, o'r Hafod Ychdryd, a'r presennol Jobn Jobnes, Ysw., Dolau Cothi, cadeirydd brawdlysoedd chwarterol sir Gaerfyrddin. Yr wythfed ach o Syr Marmaduke yw Mr. Jobnes. Priod- odd Jane â John Vaughan, Ysw., Llanelli; Anne, â Nicholas Williams, Ysw., Rhyd Odyn; Leticia, â Philip Vaughan, Ysw., Trumsaran; Elisabeth. â Richard Vaughan, Merthyr, Brycheiniog; Penelope, â Richard Herbert, Ysw., Cwrt Henri.

(1)Yr Esgob Marmaduke Middleton oedd enedigol o Geredigion, ond nid oedd un dafn o waed Cymreig, yn ei wythienau; ac nid oedd mewn un modd yn glod i'w sir enedigol. Efe oedd fab Marmaduke (Thomas, medd ereill) Middleton a Lucia ei wraig, merch Rob. Nevill. Dechreuodd y tylwyth ym Middleton, Westmoreland. Cafodd Marmaduke ei ddwyn i fyny yn Rhydychain; ond nid yw yn debyg iddo gymmeryd graddau. Aeth i'r Iwerddon, lle y daeth yn rheithor Kildare, ac wedi hyny a ddyrchafwyd i esgobaeth Waterford a Lismore yn 1579. Symmudwyd ef i esgobaeth Tŷ Ddewi yn 1582. Ym mhen tua dwy flynedd wedi hyny, cafodd ei raddio yn D.D. gan Brifysgol Rhydychain. Cafodd yn 1692 ei ddifuddio o'i esgobaeth, a'i ddiraddio o bob urdd sanctaidd am ddwyn allan ewyllys ffugiol, a bu farw. Tach. 30. Yn yr un flwydd. Penododd ei fab Richard yn archiagon Ceredigion. Dywedir i'r esgob hwn, fel yr esgobion Barlow a Ferrar, gynnyg at sicrhau rhai tiroedd perthynol i'r esgobaeth, yn eiddo personol i'w fab.— Richard Willis's Survey of the Cathedral Church of St. David's ; Wood's Athena Oxoniensis; ac History.and Antiquities of St. David's, gan Jones a Freeman.


LLOYD, MORGAN oedd fab Hugh Llwyd o Lanllyr, ac Wŷr Dafydd ab Llywelyn Llwyd o Gastell Hywel. Bu Morgan Llwyd yn sirydd am bedair gwaith yn ei sir enedigol, sef, 1576, 1584, 1594, a 1599. Ei wraig oedd Elisabeth, ferch Lewis ab Henri ab Gwilym. O hono ef y deilliodd Llwydiaid Gwern Fylig, Ffos Helyg, a Llan ym Mawddwy.

LLOYD, MORGAN diweddar beriglor Bettws Garmon, a anwyd ym Mhen y Gareg, plwyf Llanrhystud. Yr oedd yn un o ddau efell. Cafodd ei ddwyn i fyny yn ysgol Ystrad Meirig. Bu yn cadw ysgol am flynyddau yn Llanrhystud. Cafodd ei urddo pan tua deg ar hugain oed. Dywedir i'r esgob anfon llythyr ato, nad oedd yn derbyn