cyflwr ar amryw ystyriaethau. Mordwyasant oddi yno drachefn ar y 19ydd o Dachwedd; ac aethant yn glaf iawn ar y môr. Bu farw ei fab bychan ar y 14ydd o Ragfyr; ac ym mhen tri diwrnod ar ol hyny bu farw ei wraig. Bu am un ar ddeg o wythnosau rhwng yr Iwerddon a thir America, a hyny yn nyfnder y gauaf. Bu y llong oddechreu'r daith i'w diwedd ddwy ar hugain o wythnosau. Cafodd ofal Eglwys Penybec, yr Eglwys henaf o Fedyddwyr yn Nhalaeth Pennsylfania. Bu yn dra diwyd i osod Eglwysi y Bedyddwyr mewn trefn yn y Cyfandir Newydd. Gorphenodd ei daith yn 1722, yn 49 oed. Gelwir ef gan ysgrifenwyr Americaidd "Yr anghymharol Abel Morgan." Cyfieithodd Gyffes Ffydd y Bedyddwyr, a chyfansoddodd amryw holwyddoregau; ond ei brif orchest llenyddol oedd y Cydgordiad, neu Fynegair Cymreig, o'r Ysgrythyr Lân, y cyntaf a gyfansoddwyd erioed yn yr iaith; ond ni fu byw i'w ddwyn allan o'r wasg, onid e, dichon y buasai yn gyflawnach a pherffeithiach. Trwy lafur a gofal ei ddau frawd ac ereill, argraffwyd ef yn Philadelphia, gan Samuel Keimer a David Harry, yn 1730. Cyflwynwyd ef i David Lloyd, Ysw., prif ynad Pennsylfania, a chynnwysa Anerchiad at y Cyhoedd, gan John Cadwaladr, Cymro cyfoethog o Philadelphia. Yr oedd Dr. Franklin yn cyssodi y llyfr. Gwelsom gyfargraff o hono ym meddiant Dr. Jones, Glancych.
MORGAN AB RHYS ydoedd fab y Tywysog Rhys ab Gruffydd. Cymmerodd ran helaeth yn helyntion ei wlad. Bn farw yn y flwyddyn 1250, a chladdwyd ef yn Ystrad FAur. Cyfansoddodd y "Prydydd Bychan" farwnad iddo.
MORGAN, DAVID, diweddar weinidog yr Annibynwyr yn Llanfyllin, a aned yn ardal Tal y Bont, Llanfihangel Geneu'r Glyn, Rhagfyr 27, 1779. Ymunodd ag Eglwys yr Annibynwyr yn Nhal y Bont pan yn lled ieuanc: y Parch. Asarïah Shadrach oedd y gweinidog ar y pryd. Dechreuodd bregethu, a chyn hir cafodd alwad gan Eglwys yr Annibynwyr ym Machynlleth. Bu yno yn ddiwyd a llwyddiannus rhyfeddol. Symmudodd i Lanfyllin yn 1835. Bu farw yng Ngbroesoswallt, Mehefin 14. 1858, yn 79 oed, a chladdwyd ef yn Llanfyllin. Yr oedd Mr.