Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/197

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ond ei weddw haelionus, a'i unig gymmun-weinyddes, Dorothea, a adnewyddodd y rhodd yn ei ystyr bellaf, trwy goflyfru gweithred trwy'r Canghell-lys, a thrwy ymddangos yno yn bersonol yn y llys; a rhoddodd iddi holl rym y gyfraith. Yn y weithred ganmoladwy hon, hi gafodd ei chynnorthwyo yn fawr gan fab henaf Mr. Lloyd, yr hwn oedd wedi ei ddwyn i fyny yn gyfreithiwr. Cyn coflyfru yr ewyllys yn y Canghell-lys, trefnodd Mr. Lloyd a'i fab trwy gydsyniad y weddw, osod yr arian allan, drwy brynu dwy neu dair o ffermydd, y rhai a sicrhawyd gyda fferm Mr. Oliver ar gyfer yr ysgol. Perthyn Briwffosydd, Ffos y Pilwrn, ym mhlwyf Llanrhystud; Pant y Scythan a Blaen lago, ym mhlwyf Llandyssul; Dôl, ty a gardd yn nhref Tregaron; a chae bychan yn Swydd Ffynnon, yng nghyd ag Ynys y Garn, ym mhlwyf Lledrod, i waddoliad Mr. Oliver. Yr athraw cyntaf ar ysgol Mr. Oliver oedd Mr Edward Richard.

OWAIN AB CADWGAN, oedd fab Cadwgan ab Bleddyn, Tywysog Ceredigion. Yr oedd yn enwog am ei wroldeb, ac hefyd yn llawn mor hynod am ei aflonyddwch a'i ryfyg. Trwy ruthro ar William de Brabant, pan ar daith trwy Geredigion, a'i ladd, efe a dynodd arno wg Brenin Lloegr, a gorfu arno ffoi i'r Iwerddon. Daeth wedi hyny i'w ffafr, a chafodd ei greu yn Farchog. Cafodd ei ladd pan yn ymladd o blaid Brenin Lloegr yn erbyn Gruffydd ab Rhys. Hanai Llwydiaid Gilfach Wen Uchaf a'r Cilgwyn o hono.

OWAIN AB GRUFFYDD oedd ail fab Gruffydd ab Rhys. Yr oedd yn bendefig o ddoniau a dewrder clodfawr. Tua'r flwyddyn 1208, gwnaeth Llywelyn ab Iorwerth gadgyrch i Ddyfed, gan gymmeryd a chryfhau Castell Aberystwyth, a meddiannodd gantref Penwedig; a rhoddodd ddryll arall o Geredigion Uwch Aeron i feibion Gruffydd ab Rhys, sef Rhys Ieuanc, ac Owain, a'i frodyr. Cydweithiodd y ddau frawd gyda'u hewythr Llywelyn, yr hyn a gynhyrfodd Iarll Caer yn y Gogledd, a Rhys Grug yn y Deheudir. Daeth Maelgwn ab Rhys allan yn erbyn ei neiaint, a gwersyllodd am noswaith yng Nghil Cenin, gan fwriadu cymmeryd cyfoeth y ddau frawd dranoeth; ond Rhys ac Owain, gyda tua thri chant o wŷr yn y nos,