Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yr heddwch, a thalu pump can marc. Yr oedd Rhys Ieuanc ym mlaenaf gyda Llywelyn yn ymosod ar Hwlffordd, o herwydd twyll estroniaid y parth hwnw. Ffromodd Rhys wrth Lywelyn am roddi Castell Caerfyrddin i Faelgwyn ab Rhys; ond cymmodasant wedi hyny. Cafodd Rhys Gastell Aberteifi yn ol hawl. Bu farw y pendefig gwrol hwn, iawn etifedd gorsedd y Deheudir, tua'r flwyddyn 1222, a chafodd Owain ei frawd y rhan fwyaf o'i gyfoeth. Yr oedd Rhys Ieuanc yn dywysog gwrol a chall ond yr oedd yn oesi mewn oes ofnadwy o beryglus ac anfanteisiol, ac felly nid oedd yn meddu digon o nerth i adfeddiannu ei gyfoeth, gan fod y llifeiriant Seisonig, fel llanw y môr, yn rhuthro ar ei draws. Y mae amryw o feirdd ei oes wedi canu llawer o glod iddo; megys Phylyb Brydydd a'r Prydydd Bychan. Canwyd iddo farwnad gan Prydydd Bychan. Wele ychydig o honi :-

"Colled gwr arwr arfawc chwyra-yng nghad,
Yng nghadarnwisg heyrn;
Mur torf aer (1) dorf eur deyrn,
Mygyr benaeth maeth meddgyrn.


"Mab Gruffydd llafurudd lluoedd-Rhos gyrcheid
Rhys gyrchiad tra moroedd,
Gwrdd am derfyn aml dorfoedd,
Gwr byddin, gawr byddinoedd."

Yr oedd yn noddwr gwresog iawn i'r beirdd. Mae awdl gan Phylyb Brydydd a gânt yn llys yr Arglwydd Rhys Ieuanc, yn Llanbadarn Fawr, pan fu ymryson rhyngddo a "Beirdd Ysbyddaid," pwy gyntaf o honynt a ddelai & cherdd Dydd Nadolig. Mae yr awdl hòno yn un dra ragorol. Cafodd Rhys ei gladdu yn Ystrad Fiur. Rhoddodd lawer o gyfoeth i'r fynachlog hòno.

(1) Aer=brwydr.

RHYS, IFAN THOMAS, y bardd o Lanarth, oedd enedigol o blwyf Llandussylio-gogo. Crydd oedd wrth ei alwedig. aeth; ac yr oedd yn meddu ar lawer iawn o arabedd awenyddol. Dywedir i'w dad fwriadu ei ddwyn i fyny yn offeiriad, ac felly efe a gafodd lawer o ysgol. Dyn bychan oedd o faint; ond yn hynod fywiog, ac yn gerddwr cyflym