Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb fod yn hynod am ei chyfoeth na'i chyssylltiadau; ac yn fuan, efe a gafodd ei hun yn ben ar y sefydliaid llwyddiannus; ond marwolaeth ei wraig yn fuan a wywodd ragargoelion ei lwyddiant a'i fywoliaeth. Yn ystod ei Arosiad yn Chelsea, daeth yn aelod o gymdeithas neillduol o nodwedd wleidiadol a llenyddol. Rhoddodd nawdd i'r enwog Benjamin Franklin, yn ystod y poethder poblogaidd yn ei erbyn, yn nechreu y Rhyfel Americaidd. Yn y gymdeithas hon, yr oedd cynllun wedi ei wneyd at addoliad cyhoeddus gyda'r amcan o uno yr holl bleidiau ac enwadau crefyddol mewn un dull cynnwysfawr. Tynodd Mr. Williams gynllun, ac a'i cyhoeddodd, o'r enw A Liturgy on the Universal Principles of Religion and Morality; ac ar ol hyny ddwy gyfrol o Ddarlithiau a draddododd gyda ei Liturgy yng Nghapel Margaret-street, Cavendish-square, a agorwyd Ebrill 7, 1776. Parhaodd y gwasanaeth hwn am tua phedair blynedd, ond gyda chyn lleied o gyfnerth cyhoeddus, fel yr oedd traul y sefydliad mor bell a gyru y darlithiwr i golled o'i ryddid. Ei gynnyrch llenyddol nesaf oedd Lectures on Education mewn tair cyfrol; ac yn 1780, cyhoeddodd draethawd o'r enw, A Plan of Association on Constitutional Principles; ac 1782, Letters on Political Subjects, yr hwn a ledaenwyd yn helaeth yn Lloegr a Ffrainc, trwy gael ei gyfieithu i'r Ffrancaeg gan Brissot. Ei gynnyrch nesaf oedd Lessons to a Young Prince; ac yn 1796, ymddangosodd ei History of Monmouthshire mewn dwy gyfrol 4-plyg, gyda cherfleni gan ei gyfaill y Parch. John Gardnor. Cynnyrchodd wedi hyny The Claims of Literature, Regulations of Parochial Police; Egeria, or Elementary Studies for Political Reformers. Dywedir i'w lyfrau gael eu cyfieithu i'r Ellmynaeg, a bod ei enw yn dra chyfarwydd dros y rhan fwyaf o gyfandir Ewrop. Saif ei enw yn uchel iawn fel sylfaenydd y Liturgy Fund Society, sef cymdeithas i gynnorthwyo awdwyr teilwng mewn cyfyngder. Cafodd y boddlonrwydd o'i gweled wedi ei sefydlu yn 1789; ac y mae oddi ar yr amser hwnw yn parhau yn ei gweithrediadau haelionus. Bu farw Mehefin 29, 1816, ac a gladdwyd yn Eglwys St. Ann, Soho. Yr oedd 'Mr. Williams yn ddyn o dalentau dysglaer iawn, ac