Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/254

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a gadawodd y Brifysgol, gan ymsefydlu yn y lle y bu farw. Yr oedd tra yn Rhydychain yn gyfaill mawr i Dr. Pusey ac ereill, y rhai oeddynt yn ymdrechu cael iddo y Gadair Farddol. Ennillwyd y gadair gan y Parch. James Garbot, archiagon presennol Chichester, yr hwn nis gellir cyfrif yn gymmaint dyn a Mr. Williams mewn un ystyr. Bu farw dydd Sul, Mai 7, 1865. Ystyrid Mr. Williams yn wr talentog; dysgedig, diwyd, a defosiynol iawn. Y mae y cyfrif canlynol o hono o'n blaen;-

"Isaac Williams, Stinchcombe, near Dursley, Gloucestershire, Trinity College, Oxford-Latin verse priza, 1823; B.A., 1826; M.A., 1831; B.D., 1839; deacon, 1829, by Bishop of Gloucester; priest, 1831, by Bishop of Oxford, formerly curate of Windrush, 1829; St. Mary the Virgin's, Oxford, 1832—42.

Fel awdwr y mae yn sefy! yn uchel iawn; ac y mae y rhes ganlynol yn gynnyrch ei awen fel bardd: "The Cathedral", 1838; "Thoughts in Past Year," 1838; "Hymns from the Breviary", 1839; "The Baptistery," 1842; "Ancient Hymns;" 1842; "Hymns on the Caterchism," " 1843; "Sacred Verses with Pictures," 1846; "The Attar," 1847; "The Christian Scholar," 1849; "The Creation," 1850; "The Christian Seasons," 1854. Fel cynnyrch rhyddieithol, ysgrifenodd y rhes a. Ganlyn:- "Lyra Apostolica" (signed Zeta), 1836; "Commentary on the Apocalypse," 1852; "On Genesis,""1858; "On the Psalms," Vol. 1., 1863; "Sermons on the Epistles and Gospels," 3 vols., 1853; "On Old Testament Characters," 1858; "On Female Characters of Scripture," 1859; "On the Catechism,"1861; "Sermon at Llangorwen" 1841; "The Way of Eternal Life," 1845; "Life of Sạcking" 1852; "Tracts for the Times," No. 80, 86, and 87; editor of "Plain Sermons," 10 vols., 1848; "Review of the Epistle to the Hebrews," in No. 26; "British Critic", 1839; and of "Oxford Psalter," in No. 27, 1840; "The Seven Days, or the New Creation;" and also "Meditations and Prayers." Y mae tynerwch teimlad i'w weled yn amlwg iawn yn ei holl ganiadau; ac y mae crefyddoldeb yn cydwau a'r cyfan a ysgrifenodd. Mae ei Harmonies of the Gospels yn sefyll yn uchel yng ngolwg efrydwyr duwinyddiaeth.