Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/261

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mlaen yn y coleg hwnw, a chyda cymdeithion ei lafur. Gweithiai yn wrol; ac yn nherm y Pasc 1814, gyda phedwar ereill, a osodwyd yn y dosbarth blaenaf. Pasiodd ei arholiadau mor ddysglaer, ac yr oedd nifer y llyfrau a roddodd i mewn mor fawr, fel yr oedd hyny yn cael ei goffa yn y coleg am flynyddau. Ei brif bynciau oedd athroniaeth a hanesiaeth. Daeth wedi hyny yn enwog fel ysgolor mewn rhif a mesur. Yr oedd yn yr un dosbarth ag ef yr hyglod athraw Ysgol Rugby. Dywedodd ysgrifenydd yn y Times am danno, -"Fel y Dr. Arnold; dewisodd yr archiagon fywyd o athraw cyhoeddus fel ei gylch o ddefnyddioldeb - cylch at y fath: waith yr oedd ei nerth corfforol mawr, ei yni ei allu rhyfeddol ogyfranu gwybodaeth; a gwastadfrydedd sefydlog .ei dymmer; yn ei alluogi a'i gymhwyso ato."

Gam hynny, efe a gymmerodd y cynnyg a gafodd i fyned yn gynnorthwywr i Dr. Gabell, athraw enwog a medrus Coleg Winchester. Treuliodd yno bedair blynedd ym moddlonrwydd annherfynedig Dr. Gabelli a chynwydd mawr ei hun; ac yn ystod y cyfnod hwnw, efe a gafodd ei urddo yn Eglwys St. Martin, gan, Esgob Ripon, trwy lythyrau gollyngol oddi wrth Esgob. Winchester, i guradiaeth Durley, Hants ac wedi hyny you offeiriad yn Winchester gan esgob yr esgobaeth. Ar ol gadael Dr. Gabell daeth yn gymorthwywr i Mri: Richards, athrawon Hyde Abbey School, Winchester : Daeth cyfeillgarwch Brwd a thrwyadi rhyngddo ef a'r:ddau frawd;. Charles & George Richards, Etonaid perffeithiedig; a phryd hyny yn gydymaithwyr o Goleg Y Brenin Caergrawnt. Ar ol treulio dwy fynedd yn Hyde Park, cynnigiodd Dr. Burgess, Esgob.Ty Ddewi, heb unrhyw gais o'i du ef; iddo fywoliaeth Llanbedr Pont Stephan, gan ddadgan:ei obaith y bydda iddo barhau yr ysgol a sefydlwyd yno gan y diweddar beriglor. Yn gymmaint ag i'w hybarch dad ei ddwyn i fyny gyda theimladau gwladgarol cryf, gan feithrin y dymuniad o ymroddi ei holl ddysg a'i wybodaeth ag oedd wedi gasglu yn y gwahanol ysgolion--Eton, Winchester, & Westminster -at wasanaeth ei gydwladwyr ieuainc Cymreig, efe a dderbyniodd y cynnyg, gan roddi i fyny reithoriaeth St.