ond un ferch. Bu farw ei dad pan yr oedd yn bedair blwydd oed. Ar ol hyny, cymmerodd eu mamgu John a Martha ati i'r Ddôl Fawr i'w magu. Cafodd John ei ddwyn i fyny yn Ystrad Meirig, a'i anfon i Gaerfyrddin i orphen ei addysg. Cafodd deitl gan y Parch. D. Jones, Sunny Hill, yr hwn oedd beriglor Tregaron, Ystrad Ffur, Lledrod, a Llanwnws. Cafodd urdd diacon yn Abergwili gan Dr. Moss, Awst 19, 1770, ac urdd offeiriad Medi 1, 1771, gan yr un esgob. Gwr llawen a thra anystyriol oedd y pryd hyny. Yr oedd yn chwareu un prydnawn dydd Sadwrn yn hwyr, yn nhalcen Eglwys Lledrod, pan y dywedir iddo anghofio myned adref i barotoi pregeth, pan y dywedodd cyfaill wrtho, "Paid gofalu, cei fenthyg un o bregethau Rowland genyf fi. "Ym mben tro, daeth Williams Bach, Llanfair Clydogau" i bregethu i'r Lledrod, a phregethai yn llym a hallt ofnadwy. Galwai y bobl yn "eifr," ac yntau, y gweinidog, yn "fwch gafr." Effeithiodd hyny yn ddwys ar Williams, a dywedodd wrth offeiriad Llanfair iddo adael un peth ar ol. " Beth yw hyny," meddai yntau, "Maddeuant," atebai John Williams. Ar ol hyny, arweiniodd fywyd hollol wahanol. Parhäi yn rhyfeddol o boenus ei feddwl am ei sefyllfa fel pechadur, a phwysigrwydd ei swydd fel gweinidog. Pregethai yn ddifrifol iawn. Ymunodd tri â'r Eglwys, ac er yn anwybodus, eto yn ddifrifol. Aeth rhagddo yn llwyddiannus, gan ennill pobl i'r Eglwys. Achosodd hyny i rai genfigenu wrtho, gan ei gyhuddo o fod yn afreolaidd yn ei weinidogaeth fel offeiriad. Ffurfiwyd cynllun i'w daflu allan. Ymgynghorodd yntau & Mr. Rowland, Llangeitho. Cynghorodd Rowland ef i beidio myned i'r Eglwys y Sul y bwriedid ei attal. Aeth i Langeitho y Sul hwnw; ac ni aeth mwyach i'r Eglwys. Bu yn gweinidogaethu ynddi am ddeunaw mlynedd. Yr oedd yn ddyn cryf chwe troedfedd o hyd-gwyneb hir ac ychydig o ol y frech wen -talcen uchel-gwallt gwineu-yn syth, bywiog, a brysiog, ac yn gryf, hardd, a boneddigaidd ei edrychiad Priododd yn lled ienanc ag Ann, ferch Rhys Rhosser, Llwyngronwen. Ganwyd ei ferch henaf yn 1772. Bu iddo wyth o blant-pedwar mab a phedair merch. Wyr
Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/266
Gwedd