Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/269

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyhoeddodd waith, yr hwn oedd ffrwyth hir lafur caled ac ymchwil mannol, sef dangoseg lythrenol o farddoniaeth Gymreig yng nghadw mewn llawysgrifau, gyda'r llinell gyntaf ym mhob darn, dan yr enw Repertorium Poeticum, vive. Poematum Wallicorum, quotquot hactenus videre contigit. Index Alphabeticus, primam singulorum lineam, et loca ubi inueniantur, exiberis. Accedit Poetarum Nomina, et quando plerique omnes floruerint, 8plyg, Llundain. Yn 1730, ymddangosodd Cyfreithiau Hywel Dda, mewn cyfrol fawr unplyg. Mae y gwaith hwn yn ei ragadalen yn cael ei osod allan wedi ei gyfieithu gap Dr. Wotton, gyda chynnorthwy Moses Williams; ond nid oes yr ammheuaeth leiaf oddi wrth natur y gwaith, nad Mr. Williams oedd â'r llaw flaenaf yn y cyfieithad, gan fod y gwaith wedi ei gyflawnu mor orchestol, fel nad yw yn ddichonadwy ganfod gwall ynddo yn un man; ac nid gwaith bawdd oedd dwyn hyn i ben. Yr oedd hefyd yn awdwr tua phymtheg o weithiau ereill, yn benaf mewn duwinyddiaeth, y rhai sydd y rhan fwyaf o honynt yn weithiau gwerthfawr, ac y mwa yr holl yn dangos athrylith dryloew. Yr oedd calon Mr. Williams yn dra gwladgarol, ac felly yr oedd yn awyddus i godi llenyddiaeth ei wlad a dyrchafa ei genedl; ond yn lle cael cefnogaeth gan fawrion ei wlad, efe a dderbyniodd lawer o wrthwynebiadad, ac y mae y cofnod pwysig a ganlyn wedi ei gadwar glawr:"Moses Williams, ei fab, oedd hynafieithydd a Chymreigydd tra chelfyddgar. Yr oedd-ar fwriad i argraffa gramadeg a geirlyfr Cymreig helaethach a pherffeithiach nag a welwyd eto yng Nghymru, ac yn bwriadu llawer peth arall yn argraffedig or dynnyddu gwybodaeth ym mhlith y Cymry yn eu hiaith ou hurain; a phao ddeallwyd hyny gan yr 'esgobion Cymreig, rhybuddiasant a phregethasant yn ei erbyn, yn eu bymweliadau penodol; ac ar eu hol hwy yr archddiacodiaid yn eu hymweliadau; gan haeru nas dylid achlesu yr iaith Gymreig, eithr ei danfon i dir anhgof mor ebrwydd ag y gallesid, a rhwystro pob gwybodaeth ynddi; ac o hyny allan attaliwyd rhag Moses Williams y parch a dderbyniasai efe hyd yn hyny gan rai o foneddigion.