Tudalen:Enwogion Ceredigion.djvu/271

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a brawd i'r Parch. John Williams, Ystrad Meirig. Bu yn gyfranog a'i frawd fel cyhoeddwr llyfrau Cymreig yn Llundain; ac wedi hyny afe a ymsefydlodd fel arianydd yn Aberystwyth, lle y bu farw mewn hepaint teg, ac mewn parch mawr. Yr oedd iddo hefyd frawd o'r enw David, periglor Aylesbury, mab i'r hwn oedd un o feddygon enwocaf Lloegr.

WILLIAMS, WILLIAM, oedd enedigol o ardal Gogerddan. Cyhoeddodd lyfr o farddoniaeth Seisonig yn 1677. Cynnwys y gwaith 163 tudalen 8plyg foolscap, heb law 32 tudalen ar y dechreu yn cynnwys y "title dedication, contents, eucomiums to Sir Thomas Pryse," &c., llawer o'r hyn sy ar gân, a 22 tudalen ar ei ddiwedd o "Alphabetical Exposition, explaining the most difficult words." Mae yr oll yn 217 tudalen. Mae y rhan fwyaf o'r wynebddalen o'r cyfargraff yr adysgrifenir hyn wedi ei dori ymaith; ond y mae enw y llyfr i'w weled yn nechreu y caniadau, a hyny yw, Poetical Piety, or Poetry made Pious. Ar y talwyneb, yr hwn sydd oll ar gân, cawn mai blaenffrwyth ei awen yw, ac mai ar "Spare Hours" y cyfansoddodd ef. Yna y cawn, "on the License of this Book,"

"April the twelfth its License will appear,
The sixteen hundred seventy seventh year;
And on the thirtieth day, if that you look,
'Twas entered in the Stationers' Hall Book."

Ar ol hyny cawn "An Advertisement:"

"An author of my name hath lately writ
A sacred book in verse, and some thought it
To be my study; and the reason why,
Becnuse mine was a Piety;
But to content the world, I dare it well
This author's writings mine may much excel,
Moreover, then, I differ from that man,
He's Cornwall born, and I am Cardigan,
And likewise in our age we disagree,
I am near thirty, he near sixty-three."

Dyfyniadau o'r " Epistle Dedicatory." -
"To the Honourable, but my most honoured, most beloved friend, Sir Thomas Pryse, of Gogerthan, in the