ac ni fu neb erioed mor bell o haeddu hyny, gan ei fod yn enwog mewn gostyngeiddrwydd, duwioldeb, a bywyd ac ymadrodd difrychau. Ymnofiai yn y teimlad o gariad tragwyddol a digyfnewid Duw y Tad yn etholedigaeth dragwyddol, yng nghyfammod gras, ac yn anfoniad ei Fab : mewn gair, yr oedd yn Rhy w seraph ar y ddaiar. Wele ddau bennill o'i emynau: —
"The lambs are in their Jesu's arms,
They hear His bowels sound;
He keeps them close from any harms:
Their hands are in His wound,
"They are so near unto His heart,
He hears their cry and moan;
His bowels answers them, My grace
Sufficient is alone" -Tud 94.
DAVIES, RiCHARD, ydoedd weinidog eglwys Penbryn yn amser Cromwel, ac a drowyd allan mewn canlyniad i Ddeddf Unffurfìad; ond efe a gydymffurfiodd wedi hyny.
DAVIES, SAMUEL, gweinidog yr Annibynwyr yn Ynysgau, Merthyr, ydoedd fab James Davies, canlyniedydd P. Pugh yn y Gilgwyn. Derbyniodd ei ddysgeidiaeth yng
Ngholeg Henadurol Caerfyrddin.
DAVIES, THOMAS FRANCIS, a aned ym Mhen Banc, Llangybi. Debyniwyd ef yn aelod yn y Cilgwyn. Cafodd
Addysg athrofaol. Aeth yn weinidog i Bollington, yn Lloegr,
lle yr arosodd hyd ei farwolaeth, a'r lle y claddwyd ef yn
nechreu y canrif hwn. Daeth ei lyfrau a'i holl eiddo i'w
frawd, Evan Davies, Pen Banc.
DAVIES, TIMOTHY, gweinidog yn y Cilgwyn, oedd
enedigol o ardal Cellan. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1711.
Urddwyd ef pan yn chwech ar hugain oed. Bu farw yn
y flwyddyn 1771. Ei wraig oedd Sara, merch y Parch
Jenkin Jones, Llwyn Rhys. Dywedir mai mab Eyan Davies,
y cyntaf yn y Cilgwyn, oedd; ond nis gallwn brofi hyny.
Pan oedd yn glaf, daeth D. Llwyd, Llwyn Rhyd Owain, i bregethu yn ei le mewn angladd yng Nghoed y Parc; ac ar y
bregeth dywedodd, meddir, y gallasai Suddas Iscariot fod
yn y nefoedd oni bai ei ddrygioni ei hun, ac o herwydd
myned mor bell i "Arminiaeth," ymosodwyd arno yn